Rhaglen Assemble Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr i greu newid systemig wrth recriwtio doniau ifanc anabl a chreadigol gyda grant Cronfa’r Deyrnas Unedig gwerth £2.3 miliwn

  • Published:
  • Bydd rhaglen Assemble yn cael ei chyflwyno ledled Prydain dros dair blynedd gyda chwe lleoliad partner: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd; Theatr Northcott Caerwysg; Lowry, Salford; Mayflower, Southampton; Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr a Theatrau Sheffield
  • Bydd y cyllid yn galluogi 810 o bobl ifanc anabl a niwrowa­hanol i gael hyf­ford­diant a phrofiad gwaith ymarferol gyda theatrau partner yn y diwydiannau creadigol
  • Bydd 270 o bobl ifanc greadigol yn cael eu hyfforddi a’u cyflogi fel Gweithwyr Cymorth Creadigol ar draws 18 o gyflogwyr diwylliannol
  • Nid oedd 95% o’r bobl ifanc anabl oedd yn rhan o’r cynllun peilot yn ymwybodol o lwybrau gyrfa creadigol oedd ar gael iddyn nhw

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr wedi cael £2.3 miliwn dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yng ngwledydd Prydain. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad proffesiynol a phersonol pobl ifanc B/byddar, anabl, niwrowahanol ac sydd ag anableddau dysgu, gan ehangu eu sgiliau drwy hyfforddiant a lleoliadau gwaith creadigol gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled gwledydd Prydain.

Daw’r cyllid o Gronfa’r Deyrnas Unedig, sef un o ymrwymiadau nodedig Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel rhan o strategaeth 2023-2030, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’, sy’n ariannu prosiectau sy’n helpu plant a phobl ifanc i ffynnu – un o bedair cenhadaeth allweddol y gronfa.  

Bydd y grant nodedig yma’n cefnogi Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr i weithio gyda lleoliadau partner blaenllaw, sef Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd; Theatr Northcott Caerwysg; Lowry; Mayflower, Southampton a Theatrau Sheffield, i gyflwyno eu prif raglen gynhwysiant, Assemble, gyda grant nodedig i gefnogi ymgysylltiad, cynnydd, a recriwtio cynhwysol yn y sector.

Wedi’i gyd-gynllunio ar y cyd â’i buddiolwyr, nod rhaglen Assemble yw creu newid systemig yn y modd mae’r sector creadigol yn recriwtio, yn cefnogi ac yn cadw doniau B/byddar, anabl, niwrowahanol ac sydd ag anableddau dysgu, drwy godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd creadigol mewn colegau a rhwydwaith o leoliadau diwylliannol cynhwysol, ac arwain at lwybrau gyrfa cynaliadwy newydd ar draws y diwydiannau creadigol i bobl ifanc anabl.

Dyma’r tro cyntaf i Gronfa’r Deyrnas Unedig gefnogi prosiect llais plant a phobl ifanc sy’n ymgysylltu â phobl ifanc anabl a niwrowahanol ym maes y celfyddydau a diwylliant. Y grant o £2,365,914 dros dair blynedd fydd y grant fwyaf yn hanes Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, a bydd yn darparu hwb i’w groesawu cyn ei phen-blwydd yn 70 oed yn 2026.

Nid oedd 95% o’r cyfranogwyr yn y cynllun peilot yn ymwybodol o lwybrau gyrfa creadigol cyn cymryd rhan, ac roedd 90% yn awyddus i ddilyn gyrfa greadigol ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen. Nid oes gan hanner y bobl anabl yng ngwledydd Prydain swydd â thâl, sy’n fwy na dwbl y gyfradd yng ngweddill y boblogaeth o oedran gweithio (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024). Bydd y rhaglen yma, sy’n canolbwyntio ar anabledd, pobl ifanc ac aros yn lleol, yn darparu hyfforddiant arfer cynhwysol i gyflogwyr diwylliannol ac yn datgloi ymweliadau diwylliannol, profiad gwaith a chyfleoedd cynnydd newydd i gyflogaeth greadigol mewn gofodau diwylliannol prif ffrwd.

Bydd dull Assemble yn sefydlu partneriaethau hirdymor ar draws y sector rhwng deunaw o ddarparwyr addysg, deunaw o leoliadau diwylliannol a chyflogwyr creadigol, a sefydliadau cymunedol, gan roi lle blaenllaw i leisiau ifanc anabl wrth herio anghydraddoldeb a gwahaniaethu sydd wedi gwreiddio. Nod Assemble yw adeiladu ar botensial y sector creadigol fel sector cyflogaeth i bobl ifanc F/fyddar, anabl, niwrowahanol ac sydd ag anableddau dysgu, a thaclo rhwystrau o ran llwybrau gyrfa aneglur a diffyg cysylltedd rhwng lleoliadau diwylliannol, pobl ifanc anabl a cholegau prif ffrwd.

Gan adeiladu ar waith sy’n bodoli eisoes yn Manceinion Fwyaf, de Cymru a Llundain, bydd Assemble yn ehangu i Gaerwysg, Sheffield a Southampton i weithio gyda saith gwaith yn fwy o bobl ifanc a phum gwaith yn fwy o wirfoddolwyr, diolch i’r gronfa. Bydd y rhaglen estynedig yn cael ei darparu gyda chwe lleoliad partner diwylliannol blaenllaw ledled gwledydd Prydain: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd; Theatr Northcott Caerwysg; Lowry; Mayflower, Southampton; Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr a Theatrau Sheffield. Bydd y Theatr Ieuenctid yn cydweithio gyda chwmnïau cynhwysiant ac anabledd ledled gwledydd Prydain i gefnogi ac i werthuso’r rhaglen, i sicrhau ei bod yn ategu gwaith sy’n bodoli eisoes ar draws y sector.

Bydd y prosiect yn gosod y sylfaen i lawer yn fwy o bobl ifanc anabl a niwrowahanol gael mynediad at yrfaoedd creadigol cynaliadwy yn y dyfodol fel buddiolwyr uniongyrchol, drwy gyflwyno llwybrau gyrfa creadigol newydd, cynhwysol a graddadwy, gyda ac ar gyfer pobl ifanc niwrowahanol ac sydd ag anableddau dysgu, y gellir eu hefelychu ledled gwledydd Prydain.

“Mae hi mor bwysig bod gan bobl anabl fynediad at y theatr, oherwydd sut gallwn ni gael cymdeithas wirioneddol gynrychioliadol os nad ydyn ni’n clywed ganddyn nhw? Drwy ymuno ag Assemble sylweddolais mor bwerus mae cynhwysiant yn gallu bod. Am y tro cyntaf, cerddais i mewn i ofod heb orfod cuddio pwy ydw i. I fi, mae bod yn berson ifanc anabl mewn rôl arweiniol yn dangos i’n cyfranogwyr, os galla i wneud e, y gallan nhw hefyd. Helpodd Assemble fi i sylweddoli mor hanfodol yw hi i greu gofodau lle nad yw hygyrchedd yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn rhy hwyr, mae’n rhan o’r peth o’r dechrau. Dyna sut rydyn ni’n creu theatr a chymdeithas wirioneddol gynhwysol.”

—Meddai Samira Ahmed, aelod presennol o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, Cynorthwyydd Assemble a pherfformwraig Fyddar:

“Mae hyrwyddo doniau anabl a phobl ifanc anabl yn bwysicach nag erioed. Mae hon yn fenter anhygoel gan Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, sy’n arwain y ffordd o ran cefnogi arweinwyr y dyfodol yn y celfyddydau.”

—Meddai Samantha Baines, cyn-aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr a pherfformwraig a darlledwraig Fyddar

“Mae gwneud theatr yn fwy hygyrch, chwalu’r rhwystrau mae doniau B/byddar, anabl a niwrowahanol yn eu profi, a gweithio mewn partneriaethau i sicrhau dyfodol mwy teg i’n diwydiannau creadigol wrth wraidd ein cynlluniau i ddathlu’n pen-blwydd yn 70. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda theatrau a cholegau nad ydyn nhw’n brif ffrwd ledled y wlad, i wneud hwn yn brosiect sy’n creu cymaint o newid â phosib, ac rwy’n ddiolchgar i Ganolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, Theatr Northcott Caerwysg, Lowry, Salford, Mayflower, Southampton, a Theatrau Sheffield am gydweithio â ni ar Assemble. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am gefnogi’r gwaith hanfodol yma, a’r doniau creadigol ifanc anabl sy’n arwain y newid.”

—Meddai Paul Roseby OBE, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael cymryd rhan yn y rhaglen ddybryd a hanfodol yma ledled gwledydd Prydain i adeiladu ar ein gwaith ymroddedig yn cefnogi pobl ifanc B/byddar, niwrowahanol, anabl ac sydd ag anableddau dysgu i ddatblygu eu sgiliau creadigol a’u profiad proffesiynol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymuno â’r partneriaid eraill ac i ddysgu gan y cyfranogwyr, i rannu gwybodaeth, i feithrin cysylltiadau parhaol, ac i wreiddio arferion gorau yma ac ar draws y sector diwylliannol yng Nghymru.”

—Meddai Hannah Firth, Cyd-Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Artistig Canolfan Gelfyddydau Chapter

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr wedi datblygu gwaith effeithiol gyda ac ar gyfer pobl ifanc B/byddar, anabl a niwrowahanol, mewn partneriaeth â sefydliadau pobl anabl, darparwyr addysg a sefydliadau diwylliannol. Mae Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr wrthi’n cyd-gynhyrchu taith genedlaethol gyda Theatr Centre a Theatrau Sheffield o My Brother’s a Genius gan Debris Stevenson, cynhyrchiad sy’n canolbwyntio ar niwrowahaniaeth a gafodd gomisiwn sbarduno fel rhan o ŵyl ysgrifennu newydd Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, StoryFest, yn 2024. Mae gwaith yr elusen wedi cael ei gydnabod mewn adroddiadau cenedlaethol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn un o Bartneriaid Newid cyntaf Ramps on the Moon, y consortiwm tegwch anabledd cenedlaethol sy’n preswylio yn Theatrau Sheffield, ac yn gwreiddio cydraddoldeb anabledd mewn lleoliadau diwylliannol. Yr elusen oedd y sefydliad creadigol cyntaf i bobl ifanc i gael y Nod Ansawdd Lefel Arian Gwybodus am Drawma, gan One Small Thing, sy’n cydnabod bod anghenion unigol y bobl ifanc rydyn ni’n ymwneud â nhw yn cael eu blaenoriaethu. Yn gynharach eleni, roedd Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr yn rhan o’r rhaglen Llwybrau Dilyniant Cynhwysol gydag Access All Areas ac A New Direction i greu arferion recriwtio cynaliadwy a chynhwysol. Mae’n ddeiliad Safon Matrics yr Adran Addysg am wybodaeth, cyngor ac arweiniad i Ddysgwyr. Mae mwy o wybodaeth yn www.nyt.org.uk/assemble

_____

Ynglŷn â Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr

Mae Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr yn grymuso pobl ifanc i adrodd eu straeon a chanfod eu llais ar brif lwyfannau, sgriniau a thu ôl i’r llen. Ers 70 mlynedd rydyn ni wedi darparu cymorth i bobl ifanc allu gwireddu eu potensial creadigol, o Helen Mirren a Daniel Craig i Regé-Jean Page, Ed Sheeran a Florence Pugh. Gan gydweithio gyda Netflix, Sky, EON Productions, Microsoft ac arweinwyr eraill, rydyn ni’n arloesi ag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, lle mae pobl ifanc yn dysgu gan y gweithwyr proffesiynol gorau o flaen cynulleidfaoedd byw ac ar-lein, gan gynnwys ein cynulleidfa ar-lein o 10 miliwn o bobl. Rydyn ni’n gweithio’n genedlaethol ac yn gynhwysol gyda 15,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed bob blwyddyn, a hyd at 30 oed os yn anabl/niwrowahanol, gan ddarparu llwybrau cynnydd at yrfaoedd ar draws y diwydiannau creadigol. Mae hyfforddiant Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn berthnasol i bob person ifanc. Rydyn ni’n chwalu rhwystrau rhag cyfle, yn ymgysylltu â phobl ifanc amrywiol, yn meithrin hyder a sgiliau, ac yn creu’r genhedlaeth nesaf o enillwyr gwobrau ac arweinwyr creadigol.

Ynglŷn â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Ni yw’r ariannwr cymunedol anstatudol mwyaf yng ngwledydd Prydain – mae cymuned wrth galon ein pwrpas, ein gweledigaeth a’n henw. Rydyn ni’n cefnogi gweithgareddau sy’n creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac yn amgylcheddol gynaliadwy, ac a fydd yn cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled gwledydd Prydain. Rydyn ni’n falch o ddyfarnu arian sy’n cael ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, ac o weithio’n agos gyda Llywodraethau i ddosbarthu grantiau a chyllid hanfodol o raglenni a mentrau allweddol y Llywodraethau. Yn ogystal ag ymateb i’r hyn mae cymunedau yn ei ddweud wrthon ni sy’n bwysig iddyn nhw, mae ein cyllid yn canolbwyntio ar bedair prif cenhadaeth, sef cefnogi cymunedau i wneud y canlynol:

  1. Dod ynghyd
  2. Bod yn amgylcheddol gynaliadwy
  3. Helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
  4. Galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach

Diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydyn ni’n dosbarthu tua £500 miliwn y flwyddyn drwy 10,000+ o grantiau ac yn bwriadu buddsoddi dros £4 biliwn o gyllid mewn cymunedau erbyn 2030. Mae’n fraint gallu gweithio gydag eraill, o’r grwpiau bach lleol i’r elusennau ledled gwledydd Prydain, gan alluogi pobl a chymunedau i wireddu eu huchelgeisiau. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos i achosion da ledled gwledydd Prydain. Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau yn 1994, mae £49 biliwn wedi cael ei godi ac mae dros 670,000 o grantiau unigol wedi cael eu dosbarthu ledled gwledydd Prydain - sy’n gyfwerth ag oddeutu 240 grant y Loteri Genedlaethol ym mhob ardal cod post yng ngwledydd Prydain.