Rhaglen yr oriel 2026 – 27
- Published:
Yn cyflwyno rhaglen yr oriel 2026 – 27 a’r artistiaid fydd yn cydweithio gyda ni.
Nina Thomas
Gosodwaith yn y caffi bar, Mawrth – Mai
Ar draws ffilm a gosodwaith, mae gwaith Nina’n canolbwyntio ar hanesion byddar, y profiad o golli clyw, a sut beth yw byw mewn byd sy’n clywed.
Imogen Stidworthy
Arddangosfa yn yr oriel, Mawrth – Mehefin
Mae gosodwaith a delwedd symudol Imogen yn ffurfio tirlun sonig-somatig o leisio, wedi’i siapio gan bobl sy’n profi gwahanol ffyrdd o fod.
Roy Claire Potter
Arddangosfa yn yr oriel, Mehefin – Gorffennaf
Mae cerflunwaith a sain Roy yn hyrwyddo safbwyntiau awtistig ar gyfathrebu, gan ddefnyddio syniadau o radio amatur a seryddiaeth radio.
Mohammad Z. Rahman
Preswylfa, Mehefin – Awst
Mae gwaith Mohammed, fydd yn ymuno â ni dros yr haf, yn rhannu hanesion personol a chymdeithasol-wleidyddol mewn sgwrs drwy lens hud, hanesion llafar, a’r domestig.
Lu Williams x ArcadeCampfa
Gosodwaith yn y caffi bar, Mehefin – Medi
Mae Lu Williams yn cynhyrchu cerflunwaith, cylchgronau, gwaith arlunio, ysgrifennu, fideo, digwyddiadau a gweithdai, drwy ymchwil, ymgysylltu â’r gymuned, casglu, a chydweithio.
Rhaglen ArcadeCampfa gyda ac mewn mannau cyhoeddus a dinesig yng Nghymru, yn cefnogi artistiaid i greu gwaith newydd drwy breswylfeydd, prosiectau a chyhoeddiadau print.
Sophie Mak-Schram and Alice Rekab
Arddangosfa yn yr oriel, Awst – Medi
Mae Alice a Sophie yn archwilio’r gorgyffwrdd rhwng hunaniaethau cymysg, Celtiaid nad ydynt yn wyn, a dychmygion dad-drefedigaethol ledled Iwerddon a Chymru.
-
Still from collective reading with Iliada Charalambous for Change Feeling at Van Abbemuseum July 2022, photograph by Ozgur Atlagan -
Image by Barbara Donaubauer
Rita Keegan
Gosodwaith ar yr hysbysfwrdd, Hydref
Drwy hanesion teuluol, mae Rita’n myfyrio ar ryng-gysylltiad a ymdeimlad o berthyn a rennir.
Michelle Williams Gamaker
Ar y sgrin, Tachwedd
Gan ddefnyddio genres arswyd corff a film noir, mae Michelle yn cynnig iachâd ffuglennol i’r seren sgrin o’r 1930au Merle Oberon yn ei ffilm newydd Strange Evidence.
Rehana Zaman
Ar daith, arddangosfa oriel yn 2026
Drwy ffilm a cherflunwaith, mae Rehana yn archwilio defnydd o dir, perchnogaeth, a chwymp amgylcheddol ar sail profiadau gweithwyr amaethyddol.