Uchafbwyntiau mis Rhagfyr

  • Published:

Yn yr oriel, mae Sancintya Mohini Simpson yn myfyrio ar themâu mudo, cof a llinach drwy beintio, fideo, barddoniaeth a pherfformiad.

Ar y llwyfan, mae Bragod a Gill Stevens yn cyflwyno Winter Confines, gan gyfuno traddodiadau cerddorol Cymru a Thrinidad. Mae Bopa Rhys: A Crackin Christmas yn cynnig antur Nadoligaidd wahanol iawn.

Yn y sinema, mae delweddau bywiog a theimladau mawr yn llenwi'r sgrin yn nhymor Too Much: Melodrama on Film y BFI. Rydyn ni’n dathlu straeon menywod gyda chlasuron wedi'u hailddarganfod a lleisiau pwerus o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys Mam, Now, Voyager a Stella Dallas.

Rydyn ni’n rhoi lle i straeon Palesteinaidd ar draws ein rhaglen. Mae Beyond the Rubble: Steps of Hope, yn cynnig taith emosiynol drwy hanes diweddar Gaza.

Mae Marchnad Snapped Up yn 15 oed! Gallwch ddisgwyl dewis gwych o stondinau gwneuthurwyr annibynnol, dylunwyr ac artistiaid, gweithdai Nadoligaidd a bwyd blasus o'n caffi bar.

Chwilio am anrheg unigryw i rywun annwyl eleni? Rhowch aelodaeth Ffrind Chapter yn rhodd, a chefnogwch ein dyfodol.