Uchafbwyntiau mis Tachwedd
- Published:
Mae Deaf Gathering Cymru yn dod â pherfformiadau, gweithdai a gweithgareddau at ei gilydd sy'n addas i deuluoedd, ac yn dathlu creadigrwydd a’r gymuned Fyddar. Mae croeso i bawb ymuno!
Mae Artes Mundi 11 yn parhau i arddangos celf gyfoes o bob cwr o'r byd, gan gynnwys gwaith newydd gan Sancintya Mohini Simpson, sy'n archwilio themâu mudo, cof a llinach drwy beintio, fideo, barddoniaeth a pherfformiad.
Mae Beth Greenhalgh a Tim Bromage: (Un)conscious Content yn archwilio hunaniaeth drwy symudiad a sain, tra bod GWENBA a Tess Woof: Oyster yn cyfuno gwaith adrodd straeon gweledol â pherfformiad ymdrochol, arbrofol.
Mae sîn clybiau a DJs bywiog Caerdydd yn dod yn fyw gyda Pobl Miwsig, tra bod nosweithiau Jazz yn y Bar yn nodi eu pen-blwydd yn 30 oed gyda dathliad byw arbennig.
Mae lansiad Beryl gan Joanna Quinn a Les Mills yn cynnig cipolwg unigryw ar fyd animeiddiedig y prosiect poblogaidd yma.
-
Mae Deaf Gathering Cymru 2025 yn agosáu…
Gŵyl dan arweiniad pobl fyddar yng Nghaerdydd yw Deaf Gathering Cymru a gyflwynir i chi gan Deaf Gwdihŵ (Jonny Cotsen a Heather Williams) a Chapter.