Ein hymgyrch arts for impact drwy Big Give yn fyw! Bydd pob rhodd sy'n cael ei rhoi yn cael ei dyblu.

Support us here

Rydyn ni’n cydweithio gyda’n cymdogion West Pizza

  • Published:

Mae pizzas arddull Efrog Newydd West Pizza eisoes yn ffefryn amlwg yn Nhreganna, a nawr gallwch gael gafael ar un yn ein caffi bar bob nos Sul 5 – 9pm, a nos Fawrth a nos Fercher 6 – 9pm.

Drwy weithio gyda’r busnes lleol gwych yma, rydyn ni’n falch iawn o gynnig opsiwn bwyd blasus newydd i chi pan fydd y gegin ar gau.

Archebwch o’ch bwrdd gan ddilyn y canllaw cam wrth gam a bydd eich pizza’n cael ei gludo atoch gan eu tîm hyfryd.

Sut i archebu:

  1. Ewch i west.pizza
  2. Dewiswch eich pizza(s), ychwanegion a thameidiau
  3. Cliciwch ‘Dewis lleoliad casglu’ a nodwch Chapter
  4. Ychwanegwch eich pizza(s) i’ch basged
  5. Cliciwch ‘Parhau i dalu’
  6. Ar y cam talu, nodwch rif eich bwrdd yn yr adran ‘Nodiadau i’r gwerthwr’
  7. Gosodwch eich archeb
  8. Eisteddwch ac arhoswch i’ch pizza gyrraedd cyn gynted â phosib!

*Ar gael nos Sul 5-9pm a nos Fawrth a nos Fercher 6-9pm.