Diwrnod Diwydiant Gŵyl Animeiddio Caerdydd
Mae Diwrnod Diwydiant Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn dychwelyd ddydd Iau 23 Ebrill yn Chapter, gan ddod â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar draws y diwydiant animeiddio, stiwdios ledled gwledydd Prydain, myfyrwyr a graddedigion, doniau newydd, arianwyr, comisiynwyr a mwy at ei gilydd mewn diwrnod llawn chwilfrydedd, creadigrwydd, dysgu ac ysbrydoliaeth.
Mae’r rhaglen eleni’n cynnwys sesiynau ar strategaethau cynnwys digidol yn gyntaf, cyfleoedd ffilmiau nodwedd, troi at ddatblygu gemau, ac offer ymarferol ar gyfer gweithwyr llawrydd.