Rîl Cymru
Rhaglen dan arweiniad BSL o weithdai, dosbarthiadau meistr a dangosiadau gan Chapter a Deaf Gwdihŵ yw Rîl Cymru, sy’n cefnogi gwneuthurwyr ffilm Byddar a thrwm eu clyw i ddatblygu eu sgiliau ar y daith at lwyddiant ym maes ffilmiau nodwedd. Bydd capsiynau a dehonglwyr ar gael.
Mae’r sesiynau yma’n bosib diolch i ddyfarniad gan Gronfa Cysylltydd Ffilm Cymru, sef menter gan Rwydwaith y BFI a gefnogir gan gyllid y Loteri Genedlaethol.