Performance

CRABULOUS

Gŵyl Undod Hijinx

Am ddim

Nodweddion

Bydd Hijinx yn mynd â’u sioe theatr stryd newydd sbon CRABULOUS!

Meddwl eich bod yn gwybod am grancod? Meddyliwch eto. Mae’r anwyliaid llachar yma wedi codi o wely’r môr i strytio, disgleirio a gwasanaethu. Croeso i CRABULOUS!, sioe Grancaidd newydd Hijinx. Disgwyliwch weld gwisgoedd rhyfeddol, cystadleuaeth ffyrnig, a dathliad llawn llawenydd o fod dros ben llestri heb fod â chywilydd o hynny. 

___

Mae Gŵyl Undod Hijinx yn ôl yr haf hwn am y 12fed tro. Fel un o wyliau rhyngwladol mwyaf y Deyrnas Unedig o gelfyddydau cynhwysol ac anabledd, a’r unig un o’i math yng Nghymru, mae Gŵyl Undod 2026 yn cynnig rhestr unigryw a bywiog o theatr, dawns, comedi, syrcas, drag a cherddoriaeth o safon uchel o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop.   

Share