Mae'r lifft i'r Llawr Cyntaf allan o drefn ar hyn o bryd. Rydym yn ymddiheuro yn ddiffuant am yr anghyfleustra a achoswyd.

Ein hymgyrch arts for impact drwy Big Give yn fyw! Bydd pob rhodd sy'n cael ei rhoi yn cael ei dyblu.

Support us here

Art

Eimear Walshe: [É]IRE

Free

Nodweddion

Mae’r hysbysfwrdd yma gan Eimear Walshe yn dangos golygfa o’r awyr o Ben Bray, Swydd Wicklow, Iwerddon. Mae tân eithin wedi datgelu llythrennau yn y tirlun sy’n sillafu EIRE, gyda’r llythyren gyntaf yn anodd iawn ei gweld. Camsillafiad Seisnig o Éire, sef y gair Gwyddeleg am Iwerddon ac enw Gwyddeleg swyddogol y wlad ers 1937, yw EIRE.

Wedi’u llunio o gerrig gwyngalchog, roedd dros 80 o’r arwyddion yma wedi’u gwasgaru ar hyd arfordir 26 sir ddeheuol yr ynys. Dywedir eu bod yno fel cymorth cyfeirio ar gyfer y Cynghreiriaid, ac fel arwydd o niwtraliaeth wleidyddol i awyrennau’r Almaen, yn arwydd iddynt ymosod ar fannau eraill. Nid oedd y marcwyr i’w gweld yn chwe sir ogleddol yr ynys a oedd yn rhan o’r rhyfel drwy Brydain, gyda Belffast yn destun cyrchoedd awyr sylweddol gan luoedd yr Almaen.

Roedd ysgrifennu enw’r wlad ar y tirlun yn strategaeth filwrol ac yn weithred o gysylltiadau rhyngwladol drwy gelf tir. Mae Walshe wedi dewis cyflwyno’r ddelwedd yma mewn cyfnod pan mae niwtraliaeth wleidyddol Iwerddon dan sylw: "Mae byddin yr UDA wedi elwa ers degawdau ar ddefnydd di-rwystr o feysydd awyr sifil Iwerddon fel arosfannau milwrol, o ryfeloedd ymosodol anghyfreithlon yn Irac ac Affganistan, i gynorthwyo hil-laddiad Israel ym Mhalesteina."

Mae Walshe ar fin herio gwladwriaeth Iwerddon yn y llys ar y pwnc yma eleni.

___

Ynglŷn â'r artist

Artist o Longford, Iwerddon yw Eimear Walshe (g.1992, nhw). Mae eu gwaith yn olrhain gwaddol y gwrthdaro am dir yn Iwerddon yn y bedwaredd ganrif ar ddeg drwy eiddo preifat, ceidwadaeth rywiol, a’r amgylchedd adeiledig. Maen nhw wedi arddangos yn ddiweddar gyda Van Abbemuseum, EVA International, y National Sculpture Factory, Temple Bar Gallery + Studios, ac mae eu gwaith wedi’i gadw yng nghasgliadau Cyngor Celfyddydau Iwerddon ac Amgueddfa Celf Fodern Iwerddon.

Share