Film

Power Ballad

15
  • 2026
  • 1h 38m
  • Ireland

£5 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan John Reynor
  • Tarddiad Ireland
  • Blwyddyn 2026
  • Hyd 1h 38m
  • Tystysgrif 15
Roedd Rick yn arfer bod yn seren roc, yn teithio’r byd ac yn cael ei gyfweld ar MTV. Ond mae pethau wedi newid ac mae bellach yn byw yn Iwerddon gyda’i deulu ac yn chwarae mewn band priodas. Mewn un gig, mae’n cwrdd â Danny, aelod boi-band sydd newydd fynd ar ei liwt ei hunan, ac mae’r ddau’n ffurfio cysylltiad ac yn cael sesiwn jamio hwyr. Pan fydd Danny’n troi un o ganeuon Rick yn hit fawr, mae Rick yn mynd ar daith i adennill yr yrfa mae’n credu mae’n ei haeddu, hyd yn oed os yw hynny’n peryglu popeth sy’n bwysig iddo. Mae’r ddrama gomedi newydd yma gan John Carney (Sing Street; Once) yn ffilm am hunan-barch, cyfeillgarwch a theulu, a phris uchelgais. Ffilm sy’n archwilio sut mae’r gelf fwyaf personol yn troi’n gelf i bawb, unwaith mae hi yn y byd, gyda pherfformiadau annisgwyl gan Paul Rudd a Nick Jonas.

____
Oherwydd amodau ein trwydded, ni allwn ganiatáu pobl ifanc o dan 18 oed yn yr adeilad ar ôl 10.30pm. Dylech wirio amser gorffen unrhyw ffilm, perfformiad neu ddosbarth cyn archebu. Ewch i’n tudalen Teuluoedd i gael rhagor o wybodaeth cyn ymweld â ni.

Share

Times & Tickets

Key

  • AD Audio Description available