
Bwyd + Diod
Mae ein Caffi Bar golau ac agored ar agor bob dydd o 8.30am ymlaen.
Dyma'r lle perffaith i brofi Celf yn y Caffi gyda'ch coffi, i fachu rhywbeth blasus cyn ffilm, neu i sgwrsio gyda ffrindiau dros rywbeth i'w rannu. Rydyn ni hefyd yn cynnig diodydd poeth, cacennau, toesenni, brechdanau a thameidiau sawrus i fynd gyda chi o’r safle.
Os byddwch chi’n aros, mae ein cysylltiad di-wifr cyflym am ddim yn golygu mai dyma’r lle perffaith i astudio, i weithio neu i’w ddefnyddio fel swyddfa answyddogol.
Os yw’r tywydd yn braf, mae gardd gwrw hyfryd gyda ni, sydd dan do yn ystod misoedd y gaeaf, gyda gwresogyddion i’ch cadw’n glyd pan fydd hi’n oeri.