
Theatr
Mae ein gofodau theatr yn cynnig cymysgedd bywiog o berfformiadau – o artistiaid lleol sy’n dechrau arni i gynyrchiadau teithiol rhyngwladol, o gabare comedi i waith newydd.
Ochr yn ochr â’n rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus, rydyn ni’n cefnogi ymarferwyr creadigol i ddatblygu gwaith newydd, gan gynnig lle i ymarfer, amser i siarad, amser i feddwl, ac amser i greu. Rydyn ni’n gwybod bod pob prosiect yn unigryw, ac felly rydyn ni, fel blaenoriaeth, yn addasu ein hadnoddau i anghenion y gwaith.
Reciprocal Gestures: Tymor o Symud a Ddawns
