Chapter ac Imogen Stidworthy wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobr Freelands 2023
- Published:
Gwobr Freelands 2023: pum sefydliad ac artist wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr o £110,000
Heddiw, mae Sefydliad Freelands yn cyhoeddi’r pum sefydliad celfyddydau gweledol ac artist benywaidd sy’n cael eu hystyried ar gyfer yr wythfed Gwobr Freelands. Mae’r wobr flynyddol, a sefydlwyd yn 2016, yn galluogi sefydliad celfyddydol yng ngwledydd Prydain i gyflwyno arddangosfa sy’n cynnwys gwaith newydd nodedig gan artist benywaidd sydd ar ganol ei gyrfa, sydd heb gael y clod na’r gydnabyddiaeth gyhoeddus y mae ei gwaith yn ei haeddu.
Mae’r sefydliadau a’r artistiaid sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Freelands 2023 yn cynnwys:
Canolfan Gelf Camden ac Ain Bailey
Chapter ac Imogen Stidworthy
Goldsmiths CCA a Christina Mackie
QUAD a Becky Beasley
Oriel Whitechapel a Joy Gregory
Mae pum sefydliad ac artist o bob rhan o wledydd Prydain yn cystadlu am y wobr o £110,000, sy’n cael ei dyfarnu i arddangosfa a fydd yn cael ei chynnal yn y tair blynedd nesaf. Mae’r wobr yn cynnwys ffi o £30,000 wedi’i dyrannu ar gyfer yr artist buddugol. Bydd y pedwar sefydliad arall ar y rhestr fer hefyd yn cael £10,000 tuag at eu rhaglenni.
Bydd enillwyr Gwobr Freelands 2023 yn cael eu cyhoeddi ar 29 Tachwedd 2023 ar ôl proses ddethol gan reithgor, sy’n cynnwys Elisabeth Murdoch (Sylfaenydd a Chadeirydd Sefydliad Freelands), yr awdur Olivia Laing, y curadur Elinor Morgan (Cyfarwyddwr Artistig, MIMA) a’r artist Ingrid Pollard (enillydd Gwobr Freelands 2020).
Bydd Chapter yn cyflwyno corff newydd o waith fideo a sain trochol ac aml-sianel gan Imogen Stidworthy (g. 1963, Llundain, Lloegr) yn 2025. Gan archwilio’r cysyniad o argyfwng, bydd Stidworthy yn defnyddio deialog gyda chleifion a therapyddion, yn ogystal ag ymchwil maes ac ymgorfforedig, i archwilio therapïau radical a iechyd meddwl heddiw.
Meddai Imogen Stidworthy: “Mae cyrraedd rhestr fer Gwobr Freelands yn arwydd cyffrous o gefnogaeth, sy’n digwydd ar gyfnod arbennig o werthfawr i fi, wrth i fi ddechrau datblygu cyfeiriad newydd yn fy arfer. Mae gwneud arddangosfa unigol yn gyfle prin, sydd bob amser yn newid mawr. Mae’n broses syfrdanol sy’n gwthio fy arfer ar bob lefel.”
Meddai Hannah Firth, Cyd-Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Artistig Chapter: “Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Freelands 2023 ac i gael cyfle i weithio gydag Imogen Stidworthy. Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol cydweithio gydag artistiaid sy’n cyfleu sut rydyn ni’n gweld y byd drwy wahanol safbwyntiau, gan agor y posibilrwydd i gymdeithas fwy teg.”
Delwedd: Portread o Imogen Stidworthy gan ffotograffwyr Wendelien van Oldenborgh
Mae Imogen Stidworthy (g. 1963, Llundain) yn byw yn Lerpwl, ac yn gweithio gyda fideo, sain a gosodweithiau cerfluniol. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae ei harfer wedi archwilio’r ffyrdd mae iaith a llais yn siapio hunaniaethau. Mae ei gwaith yn cynnwys deialog a sefydlu sefyllfaoedd cydweithredol gyda phobl nad ydyn nhw’n rhannu iaith, neu y mae iaith lafar yn cael ei chwestiynu mewn rhyw synnwyr hanfodol, oherwydd profiad pwerus, er enghraifft y cyflwr niwrolegol affasia, neu arfer diwylliannol fel siamaniaeth, neu dafleisiaeth.
Mae Stidworthy yn ystyried ei gosodweithiau a’i ffilmiau fel cyfarfyddiadau rhwng ieithoedd, gan gynnwys iaith y gwyliwr. Gallent fod yn ofodau ar gyfer dryswch, neu ffrithiant hyd yn oed, ond hefyd ar gyfer cydweddu â chwmpas ehangach lleisio, gwrando, a’r gwirioneddau maen nhw’n eu cynhyrchu. Mae hi wedi arddangos gwaith mewn arddangosfeydd rhyngwladol mawr, gan gynnwys Documenta 12 (Kassel, 2007), Sao Paolo Bienal (2014), Netwerk Aalst (2019), yr Amgueddfa Celf Gyfoes, Antwerp (2007), Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd, Llundain (2015), Arnolfini, Bryste (2010) ac Matt's Gallery, Llundain (2003, 2011). Caiff Imogen Stidworthy ei chynrychioli gan Matt’s Gallery, Llundain a Galerie AKINCI, Amsterdam.
Delwedd: Imogen Stidworthy, The Whisper Heard, 2003, arddangsofa unigol, Matt’s Gallery, Llundain. Parabolic focusing loudspeaker with the voice of Tony O’Donnell and synchronised video of his hands projected onto a satellite dish. Golwg gosodwaith. Cwrteisi yr artist a Matt’s Gallery, Llundain.
Oriel
Rydyn ni’n comisiynu ac yn cyflwyno arddangosfeydd a digwyddiadau sy’n ysgogi’r meddwl gan artistiaid cyfoes, sy’n ehangu ein bydolwg ac yn herio’r status quo.