Cyfle: Assemble cydymaith
- Published:
Rhaglen profiad gwaith a hyfforddiant creadigol am ddim yw Assemble, ar gyfer pobl ifanc b/Byddar, Anabl a Niwrowahanol* rhwng 18 a 25 oed.
Rydyn ni’n chwilio am gyfranogwyr i ymuno â’r rhaglen. Bydd y cyfranogwyr yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, yn cael profiad gwaith, ac yn gweld gig, ffilm neu sioe theatr gyda’i gilydd.
*nid oes angen diagnosis ffurfiol
Beth fyddwn ni’n ei wneud?
Mewn gweithdai creadigol wythnosol o ddwy awr yn Chapter, Caerdydd, byddwch:
- Yn dysgu am swyddi creadigol
- Yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant
- Yn mynd i weld gig/ffilm/sioe theatr
- Yn dysgu am Becynnau Mynediad, cyngor CV/cyfweliad
- Yn cael profiad gwaith ymarferol â chefnogaeth
Ble a phryd?
- Grŵp Byddar yn Chapter*
- Grŵp nos Fawrth yn Chapter
- Grŵp nos Fawrth i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru yn USW*
*Os ydych chi'n mwynhau ymuno â grŵp Byddar yn Chapter neu'r grŵp dydd Mawrth i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru yn USW, cysylltwch â Tom yn [email protected].
I wneud cais am y grŵp dydd Mawrth yn Chapter, cofrestrwch drwy'r ffurflen isod.
Bydd hefyd daith grŵp i sioe theatr, gig, neu ffilm yn wythnos 6 Gorffennaf, a 3 diwrnod o brofiad gwaith yn wythnos 3 Awst.
Beth fyddwn ni’n ei wneud?
| Ddechrau Mehefin | Sesiynau holi ac ateb cyn y cwrs gyda Tom yn Chapter (ar-lein, galw heibio, dewisol) |
| 16 Mehefin, 6-8pm | Sesiwn 1 Sesiwn gyflwyn |
| 23 Mehefin, 6-8pm | Sesiwn 2 Swyddi yn y diwydiannau creadigol x 2 ddosbarth meistr gan siaradwyr gwa |
| 30 Mehefin, 6-8pm | Sesiwn 3 Swyddi yn y diwydiannau creadigol ac 1 dosbarth meistr gan siaradwr gwadd Nodi sgiliau a nodau lleoliad profiad gwaith |
| 7 Gorffennaf, 6-8pm | Sesiwn 4 Taith ddiwylliannol e.e ffilm/gig/sioe theatr |
| 14 Gorffennaf, 6-8pm | Sesiwn 5 Swyddi yn y diwydiannau creadigol ac 1 dosbarth meistr gan siaradwr gwadd Sgiliau cyfweliad a CV |
| 21 Gorffennaf, 6-8pm | Sesiwn 6 Creu Pecyn Mynediad / dogfen Gweithio Gyda Fi |
| 28 Gorffennaf, 6-8pm | Sesiwn 7 Paratoi ar gyfer profiad gwaith |
| 3-5 Awst | 3 diwrnod o brofiad gwaith Sesiwn 8 (4 Awst) Dal i fyny am y profiad gwaith |
| 11 Awst, 6-8pm | Sesiwn 9 Dysgu a myfyrio ar y profiad gwaith Camau nesaf ac edrych tua’r dyfodol! |
Oes rhaid i fi dalu?
Nac oes! Mae Assemble am ddim. Byddwch yn cael:
- Bwrsariaeth hyfforddiant o £150
- Ad-daliad am yr holl deithio lleol i sesiynau a’r profiad gwaith
- Tocynnau sioe neu ffilm
- Costau mynediad a Gweithwyr Cymorth Creadigol i’ch cefnogi
Eisiau cymryd rhan?
Mae llefydd yn brin! I wneud cais am grŵp Mawrth yn Chapter, cofrestrwch trwy'r ffurflen hon.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 22 Mai
Os oes gennych gwestiynau, e-bostiwch yn [email protected].
Wedi'i ariannu gan Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol