Uchafbwyntiau mis Chwefror
- Published:
Mae amser ar ôl i weld Artes Mundi 11 gyda’n partner cyflwyno Sefydliad Bagri. Yma, mae Sancintya Mohini Simpson yn archwilio themâu mudo, cof a llinach drwy waith peintio, fideo, a barddoniaeth.
Yn y sinema, mae Iris ar Symud yn rhannu ffilmiau byrion sydd wedi ennill gwobr o Ŵyl Ffilmiau LHDTC+ Gwobr Iris, tra bod Rhaglen Deithiol Ffilmiau Sefydliad Japan yn dychwelyd gyda Knowing Me, Knowing You, sy’n archwilio yr hunan, hunaniaeth, a chysylltiad drwy sinema Japan.
Yn ein gofodau perfformio, cherddoriaeth fyw gan Zebra Cactus a gyflwynir gan Tŷ Cerdd gyda chefnogaeth The Best, a hefyd CHRISTBRIDE gan Bebe Cave, comedi cymeriad sy’n wallgo o ddoniol.
Yn y caffi bar, rydyn ni’n dod at ein gilydd i rannu mewn sesiynau Noson Lawen wythnosol sy’n llawn o gerddoriaeth werin draddodiadol.
Hefyd, mae sesiynau rheolaidd Caffi Trwsio Treganna yn cynnig trwsio, atgyweirio a chysylltu gyda’ch cymuned leol – am ddim ac ar agor i bawb.