Digwyddiadau
Caffi Trwsio Treganna
- 2h
Am ddim
Nodweddion
- Hyd 2h
Dewch draw i Chapter ar drydydd dydd Sadwrn pob mis lle byddwn, 11am – 1pm ni’n cynnal Caffi Trwsio Treganna.
Casgliad o wirfoddolwyr yw Caffi Trwsio Cymru, sy’n dod at ei gilydd i drwsio eich eitemau am ddim. Eu nod yw lleihau gwastraff, meithrin ymdeimlad o gymuned, ac arbed arian i bobl ar yr un pryd. Felly os oes gennych eitem o’r cartref sydd wedi torri, dewch ag e i’r Caffi Trwsio Treganna i’w drwsio am ddim!
Mae gwaith trwsio arferol yn cynnwys: gwaith cynnal a chadw sylfaenol gyda beiciau, trwsio offer trydanol, cymorth gyda chyfrifiaduron, gwnïo, trwsio addurniadau, a gwaith pren, ond byddan nhw’n barod i edrych ar y rhan fwyaf o bethau (heblaw am feicrodonau gan eu bod nhw’n rhy beryglus).
Unrhyw gwestiynau? Anfonwch neges at Caffi Trwsio Treganna ar [email protected] ac fe wnawn nhw eu gorau i sicrhau bod rhywun ar gael i drwsio eich eitem. Mae bob amser croeso i fwy o drwswyr - dewch draw i weld beth sy’n digwydd yma, a soniwch wrth eich ffrindiau.
Does dim angen archebu, mae croeso i roddion. Mae pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein rhaglen artistig, gan adeiladu cymunedau creadigol yng Nghymru. Dysgwch fwy yma.
More at Chapter
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Gweithdai
Dan Johnson: A Summer of Deep Listening
Ymunwch â ni mewn cyfres o weithdai gwrando a sain chwareus gan Dan Johnson, wedi’u hysbrydoli gan waith Pauline Oliveros. Agored i bob oed a gallu.
-
- Digwyddiadau
Pub Quiz
Dewch â’ch tîm at ei gilydd ac ewch am y bar.
-
- Digwyddiadau
Drones Comedy Club
Llwyfan i’r doniau stand-yp newydd gorau ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd Dydd Gwener pob mis.