Ffilmau yn Chapter 13 – 19 Mawrth

  • Published:

O hanesion cudd i gyfrinachau teuluol i’r dewisiadau mae pobl yn eu gwneud o dan bwysau, mae ffilmiau’r wythnos yma’n dilyn cymeriadau sy’n wynebu gwirioneddau anodd.

Camwch i ddyddiau ola’r Ail Ryfel Byd gyda The Tasters, sy’n adrodd stori wir afaelgar y menywod oedd yn cael eu gorfodi i flasu bwyd Hitler, tra bod The Bride! yn ail-ddychmygu stori Frankenstein yn Chicago’r 1930au. Yn Sound of Falling ac A Pale View of Hills, mae’r gorffennol yn poenydio wrth i fenywod frwydro gyda chof, hunaniaeth, a’r cyfrinachau mae teuluoedd yn eu cario. Yn nes at adre, mae tensiynau’n dod i’r berw yn Wasteman, lle mae bywydau’n cael eu taflu oddi ar eu trywydd gan amgylchiadau a bri.

Mae Reel Futures yn cyflwyno dangosiad arbennig o The Lunchbox, cyn sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr Ritesh Batra wedi’i ffrydio’n fyw.

Mae Rhaglen Ffilm Deithiol Sefydliad Japan yn parhau gydag Angry Squad: The Civil Servant a Seven Swindlers, ffilm gomedi caper dywyll am ddial, ochr yn ochr â Sham, sy’n archwilio cyhuddiad, gwirionedd a sgil-effeithiau amheuaeth.