Ffilmau yn Chapter 8 – 14 Mai
- Published:
Wythnos yma ar ein sgriniau, mae cymeriadau’n ailystyried pwy ydyn nhw a phwy allan nhw fod.
Yn Wild Foxes, mae bocsiwr ifanc yn cwestiynu ei ddyfodol, tra bod Mother Mary yn dod â seren bop wyneb yn wyneb â’i gorffennol, ac yn The Sheep Detectives gwelwn haid o ddefaid yn camu i’r adwy i ddatrys dirgelwch.
Rydyn ni’n troi’r sain i fyny wrth i Ŵyl Ffilmiau Doc’n Roll ddychwelyd, i ddathlu ffilmiau dogfen cerddoriaeth yn y ffordd gywir: yn swnllyd ac ar y sgrin fawr. Mae’r ŵyl yn dechrau gyda How Tanita Tikaram Became a Liar, portread amrwd a phersonol o’r cerddor eiconig, cyn sesiwn holi ac ateb arbennig gyda Tanita a’r cyfarwyddwr Natasca Horn.