Ffilmiau: 10 – 23 Mehefin


  • Published:

Mae’n gyfnod y gwyliau yn ein sinema! Yn fyw o Lundain mae ganddon ni uchafbwyntiau Sundance 2022, gan gynnwys rhagddangosiad o’r ffilm newydd ddoniol a rhywiol gan Katy Brand ac Emma Thompson Good Luck To You, Leo Grande a dros wythnos o ddangosiadau o Cha Cha Real Smooth, ffilm sydd wedi cael llwyddiant ysgubol mewn gwyliau gyda Dakota Johnson yn serennu ynddi. Yna, bydd dau fath gwahanol iawn o ŵyl yn camu i’r llwyfan: o wyl ffilmiau ymylol Gŵyl Undod Hijinx a fydd yn arddangos gwaith creu ffilmiau cynhwysol, gan gynnwys dangosiad cyntaf o Theo and the Metamorphosis a thrafodaeth gyda’r actor o Craith Justin Melluish; a Gŵyl Ryngwladol Ffilmiau a Chelfyddydau Fampir gyda’r ffilmiau newydd a chlasurol gorau am y creaduriaid arswyd danheddog.