Ffilmiau yn Chapter 15 – 21 Mai
- Published:
Wythnos yma, mae ein ffilmiau yn gofyn “pwy wyt ti, go iawn?”
Yn Romería, mae menyw ifanc yn teithio i ddatgelu ei gorffennol, tra bod The Christophers yn dilyn plant paentiwr enwog wrth iddyn nhw gynllwynio yn ei erbyn.
Mae nofelydd arswyd yn aros mewn gwesty ag ysbryd yn Iwerddon yn Hokum, ac mae praidd o ddefaid yn mynd ati i ddatrys dirgelwch yn The Sheep Detectives.
Mae Gŵyl Ffilmiau Doc'n Roll yn parhau gyda Felix – Dare to Dream, portread gwresog o deulu tatŵio sydd wedi rhoi creadigrwydd yn ganolog i’w bywyd.