Film

The Christophers

15
  • 2025
  • 1h 40m
  • UK

£5 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Steven Soderberrgh
  • Tarddiad UK
  • Blwyddyn 2025
  • Hyd 1h 40m
  • Tystysgrif 15
Artist yw Lori, sy’n gwneud arian drwy waith achlysurol ac adfer celf. Mae ei ffawd ddi-nod yn newid pan mae plant ymddieithriedig y paentiwr clodwiw Julian Sklar yn cysylltu â hi gyda chynnig cyffrous: dwyn paentiadau anorffenedig o gartref Sklar, eu cwblhau, ac yna rhannu’r enillion pan fyddan nhw’n gwerthu ar ôl ei farwolaeth. Ond, mae’r cynllun cywrain yn mynd o chwith. Dyma ffilm aruthrol â dau brif gymeriad, gyda pherfformiadau tanbaid gan McKellen a Coel; mae hi’n ffraeth, yn gyffrous ac yn gymhleth, gan edrych ar wirioneddau cas uniondeb artistig a gwaddol.

___
Oherwydd amodau ein trwydded, ni allwn ganiatáu pobl ifanc o dan 18 oed yn yr adeilad ar ôl 10.30pm. Dylech wirio amser gorffen unrhyw ffilm, perfformiad neu ddosbarth cyn archebu. Ewch i’n tudalen Teuluoedd i gael rhagor o wybodaeth cyn ymweld â ni.

Share

Times & Tickets

Key

  • C Captioned