Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Ffilmiau Chapter 5 – 18 Ionawr

  • Published:

Blwyddyn newydd dda bawb! Mae ganddon ni ffilmiau a digwyddiadau gwych i ddod yn ein sinemâu, sy’n cynnwys digwyddiadau mawr, momentau bach, cariad, colled, a llawer mwy. Yr arwr o Gymro, Anthony Hopkins, sy’n serennu yn stori deimladwy y dyngarwr Nicholas Winton yn One Life, tra bod Ferrari gan Michael Mann yn archwilio’r ymerodraeth a greodd yr arwr Formula 1, Enzo Ferrari.

Peidiwch â methu Jacob Elordi, o Saltburn gynt, fel Elvis ifanc yn Priscilla (a fydd yn cael ei dangos mewn 35mm ar gyfer rhai dangosiadau!), ochr yn ochr â’r seren Ceilee Spaeny, ac mae Emma Stone yn cynnig perfformiad canolog cain yn y ffilm hyfryd o ddychmygus Poor Things.

Rydyn ni’n cynnal tri digwyddiad arbennig, gan gynnwys sesiwn holi ac ateb gyda’r awdur a’r ymgyrchydd Aubrey Gordon a’r cyfarwyddwr Jeanie Finlay ar gyfer Your Fat Friend. Bydd cyfle i gamu tu ôl i’r sgrin yn ein teithiau cefn llwyfan i weld sut mae sinema annibynnol yn gweithredu mewn taith o’n bwth taflunio! Ac fel rhan o Artes Mundi 10, rydyn ni’n dangos dwy o ffilmiau Nguyễn Trinh Thi, gan ddangos hanes Fietnam a gwaddol cymhleth y feddiannaeth ddiwylliannol a hanesyddol.

A close-up of red velvet cinema screen curtains.

Canllaw Ffilm

Pori ein ffilmiau diweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch dangosiadau i'r teulu am ddim, ac ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore ddydd Gwener!

Lawrlwythwch yma