The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

Grenfell gan Steve McQueen i gael ei ddangos mewn chwe dinas ledled gwledydd Prydain

  • Published:

Dros y tair blynedd nesaf, bydd gosodwaith ffilm Steve McQueen, Grenfell, yn cael ei ddangos mewn orielau celf cyhoeddus mewn chwe dinas yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yn agor yn Tramway yn Glasgow yn y gwanwyn, cyn teithio i Chapter yng Nghaerdydd, The MAC ym Melffast, The Box yn Plymouth, Tate Liverpool yn Lerpwl, ac yna MAC yn Birmingham.

Ym mis Rhagfyr 2017, creodd yr artist a’r gwneuthurwr ffilm Steve McQueen (g. 1969, Llundain) waith celf mewn ymateb i’r tân a ddigwyddodd yn gynharach y flwyddyn honno ar 14 Mehefin yn Nhŵr Grenfell. Bu 72 o bobl farw yn y drychineb. Wrth ffilmio’r tŵr cyn iddo gael ei orchuddio, aeth McQueen ati i greu cofnod ohono i sicrhau na fyddai’n cael ei anghofio.

Yn dilyn y tân, lansiwyd Ymchwiliad gan y Llywodraeth a gynhaliwyd mewn dau gam. Mae canfyddiadau cam cyntaf ac ail gam yr Ymchwiliad wedi eu cyflwyno, ond nid yw’r argymhellion wedi’u rhoi ar waith eto, gan olygu y gallai trychineb debyg ddigwydd eto. Mae ymchwiliad troseddol yn mynd rhagddo.

Meddai Steve McQueen “Ro’n i’n gwybod unwaith y byddai’r tŵr yn cael ei orchuddio, y byddai’n dechrau gadael meddyliau pobl. Ro’n i’n benderfynol na fyddai byth yn cael ei anghofio.”

Cyflwynwyd Grenfell yn 2023 am y tro cyntaf yn Serpentine yng Ngerddi Kensington yn Llundain, ar ôl cyfnod o arddangosiadau preifat a oedd yn blaenoriaethu’r teuluoedd oedd yn galaru a’r goroeswyr. Yna gosodwyd y gwaith yng ngofal y Tate ac Amgueddfa Llundain.

Mae’r daith yma’n cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.

___

Gwybodaeth

Tramway, Glasgow, mewn partneriaeth â The Common Guild
8 – 23 Mawrth 2025

Chapter, Caerdydd
10 Mai – 15 Mehefin 2025

The MAC, Belffast
17 Gorffennaf – 21 Medi 2025

The Box, Plymouth
Yn 2026. Dyddiadau i’w cyhoeddi

Tate Liverpool, Lerpwl
Yn 2026-27. Dyddiadau i’w cyhoeddi

MAC, Birmingham
Yn 2027. Dyddiadau i’w cyhoeddi

Mynediad am ddim. Cynghorir ymwelwyr i wirio’r wybodaeth archebu gyda’r lleoliad perthnasol.

___

Nodyn cynnwys

Cynghorir ymwelwyr bod y ffilm yn cynnwys awyrluniau agos o’r tŵr chwe mis ar ôl y tân. Mae hyn yn cynnwys golygfeydd o du mewn i’r adeilad a chontractwyr wrth eu gwaith. Gallai’r delweddau beri gofid i rai. Bydd pob lleoliad yn cynnig cymorth i unrhyw ymwelwyr y mae angen cyfle i oedi a myfyrio arnynt ar ôl gweld y gwaith.

Lluniau

I lawrlwytho lluniau’r wasg, ewch i’r ffolder Dropbox yma. Dewiswyd y llun llonydd o’r ffilm er mwyn sicrhau bod y deunydd yn y wasg am yr amgueddfa mor sensitif â phosib i’r teuluoedd sy’n galaru, y goroeswyr a’r gymuned. Defnyddiwch y llun yma ar gyfer erthyglau am waith Steve McQueen, Grenfell. Gofynnwn i chi beidio â defnyddio lluniau stoc o’r tŵr, yn enwedig y rhai o noson y drychineb ac o’r tŵr heb orchudd, er mwyn parchu cymuned Grenfell gan fod y lluniau yma’n gallu peri gofid.

Steve McQueen

Mae Steve McQueen wedi bod yn trafod gyda grwpiau ac unigolion sy’n galaru yn dilyn Grenfell a’r gymuned ehangach dros wahanol adegau dros y saith mlynedd ddiwethaf. Mae wedi cymryd rhan yn y trafodaethau yma er mwyn i Grenfellgael ei gyflwyno’n sensitif, gan gadw’r galarwyr a’r goroeswyr ar flaen ei feddwl. Cafodd y gwaith cynhyrchu ei hunan-ariannu gan McQueen, nid yw’n brosiect masnachol ac ni fydd yn cael ei werthu.

Ganed Steve McQueen yng ngorllewin Llundain yn 1969 ac astudiodd Celf Gain yng Ngholeg Goldsmiths, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn ffilm gyntaf. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae McQueen wedi bod yn ddylanwadol yn ehangu’r modd mae artistiaid yn gweithio gyda ffilm. Mae wedi creu sawl ffilm nodwedd glodwiw, gan gynnwys ennill Gwobr yr Academi am y Ffilm Orau gyda 12 Years a Slave. Cafodd ei ffilm ddiweddaraf, Blitz, ei rhyddhau y llynedd. Fel artist, enillodd McQueen Wobr Turner yn 1999 ac mae wedi arddangos ei waith mewn amgueddfeydd cyhoeddus ledled y byd. Mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain ac Amsterdam.

Ymholiadau’r wasg

Ar gyfer ymholiadau’r wasg, anfonwch e-bost at pressoffice@tate.org.uk neu ffoniwch +44(0)20 7887 8730.