i

Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Art

Steve McQueen: Grenfell

Nodweddion

Ym mis Rhagfyr 2017, creodd yr artist a’r gwneuthurwr ffilm Steve McQueen (g 1969, Llundain) waith celf mewn ymateb i’r tân a ddigwyddodd yno ar 14 Mehefin yn Nhŵr Grenfell, Gogledd Kensington, Gorllewin Llundain. Bu 72 o bobl farw yn y drychineb. Wrth ffilmio’r tŵr cyn iddo gael ei orchuddio, aeth McQueen ati i greu cofnod: “Ro’n i’n gwybod unwaith y byddai’r tŵr yn cael ei orchuddio, y byddai’n dechrau gadael meddyliau pobl. Ro’n i’n benderfynol na fyddai byth yn cael ei anghofio.”

Yn dilyn y tân, cynhaliwyd Ymchwiliad gan y Llywodraeth o fis Medi 2017 tan fis Medi 2024. Nid yw’r argymhellion a ddeilliodd o’r ymchwiliad wedi’u rhoi ar waith eto, gan olygu y gallai trychineb debyg ddigwydd eto. Mae ymchwiliad troseddol yn mynd rhagddo, gyda chyhuddiadau posib yn cynnwys dynladdiad corfforaethol. Nid oes disgwyl y bydd unrhyw achosion llys yn cael eu cynnal tan 2027 ar y cynharaf, dros ddegawd wedi’r tân.

CyflwynwydGrenfellyn 2023 am y tro cyntaf yn Serpentine yng Ngerddi Kensington yn Llundain, ar ôl cyfnod o arddangosiadau preifat a oedd yn blaenoriaethu’r teuluoedd sy’n galaru a’r goroeswyr. Ar ôl ei ddangosiad yno, rhoddwyd y gwaith dan ofal y Tate a chasgliadau Amgueddfa Llundain.

“‘Grenfell’ by Steve McQueen is an urgent and confronting work. The failures of state that it so powerfully highlights resonate across the UK. Here in Wales, we have long-standing and deep-rooted inequalities, which manifest across our communities through poverty, ill health, unemployment and inadequate housing. Alongside this presentation, we’ll be working in solidarity with our network of activist groups and communities to co-create a programme of events that give voice and visibility to injustices locally.”Hannah Firth, Cyfarwyddwr Artistig, Chapter

___

Steve McQueen

Mae Steve McQueen wedi bod yn trafod gyda grwpiau ac unigolion sy’n galaru yn dilyn Grenfell a’r gymuned ehangach dros wahanol adegau dros y saith mlynedd ddiwethaf. Mae wedi cymryd rhan yn y trafodaethau yma er mwyn i Grenfellgael ei gyflwyno’n sensitif, gan gadw’r galarwyr a’r goroeswyr ar flaen ei feddwl. Cafodd y gwaith cynhyrchu ei hunan-ariannu gan McQueen, nid yw’n brosiect masnachol ac ni fydd yn cael ei werthu.

Ganed Steve McQueen yng ngorllewin Llundain yn 1969 ac astudiodd Celf Gain yng Ngholeg Goldsmiths, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn ffilm gyntaf. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae McQueen wedi bod yn ddylanwadol yn ehangu’r modd mae artistiaid yn gweithio gyda ffilm. Mae wedi creu sawl ffilm nodwedd glodwiw, gan gynnwys ennill Gwobr yr Academi am y Ffilm Orau gyda 12 Years a Slave. Cafodd ei ffilm ddiweddaraf, Blitz, ei rhyddhau y llynedd. Fel artist, enillodd McQueen Wobr Turner yn 1999 ac mae wedi arddangos ei waith mewn amgueddfeydd cyhoeddus ledled y byd. Mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain ac Amsterdam.

___

Mae’r daith yma’n cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund.

Share