Art
In a thread of air
Imogen Stidworthy
Am ddim
Nodweddion
Mae Chapter yn falch o gyflwyno arddangosfa unigol gyntaf Imogen Stidworthy yng ngwledydd Prydain ers dros ddegawd. Mae In a thread of air yn cyflwyno gosodwaith newydd, a gyd-gomisiynwyd gan Chapter ac Oriel Matt’s yn Llundain, yn ogystal â thri gosodwaith cysylltiedig a ffilm fer.
Ers dros ddeng mlynedd ar hugain, mae arfer Stidworthy yn edrych ar wahanol ffurfiau ar leisio, drwy osodwaith, sain, cerflunwaith a ffotograffiaeth. Mae ei gwaith yn datblygu drwy ddeialogau hirdymor gyda phobl sy’n ymgorffori gwahanol ffyrdd o fod. Mae’n gofyn sut mae cyfathrebu geiriol a di-eiriol yn siapio ein perthnasau cymdeithasol, ein profiadau, a’r ffordd rydyn ni’n gwneud synnwyr o bethau. Mae ei gwaith yn myfyrio ynghylch beth mae’n ei olygu i fod â llais, a beth mae’n ei olygu i wrando.
Yn yr arddangosfa yma, rydyn ni’n profi cyfnewid geiriau a llif cyfathrebu rhwng pobl awtistig sydd heb arfer o siarad. Rydyn ni’n ymgysylltu â phobl sy’n siarad o gyflyrau wedi’u newid, mewn gofodau o drawsnewid rhwng un realiti a’r llall, wedi’u siapio gan newidiadau sydyn a phendant yn y corff neu’r meddwl. Rydyn ni’n cwrdd â nhw mewn deliriwm, mewn seicosis, neu ar y llwybr araf a gwydn at iachâd ar ôl digwyddiad iechyd mawr.
Mae gwaith gofodol a cherfluniol Stidworthy yn ein gwahodd ni i ystyried sut, drwy wrando ar eraill mewn ystyr ehangach – gair llafar, ynganiadau sonig, cyweiriau somatig o ystum a symudiad, dirgryniadau, amleddau a rhythmau anniriaethol – y gallwn hefyd wrando ar ein hunain, gan archwilio sut caiff ein cyfathrebu a’n modd ni o greu ystyr ei effeithio, ei herio, a’i newid drwy addasu i wahanol fathau o fynegiant.
___
Ynglŷn â'r artist
Artist sy’n byw yn Lerpwl yw Imogen Stidworthy.
Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn arddangosfeydd nodedig, gan gynnwys The Myth of Normal yn Hannover Kunstverein a Salzburger Kunstverein (2024); Survival Kit 11, LCCA, Riga (2020), Bergen Assembly (2019, 2013), Gŵyl Ddwyflynyddol Suzhou (2016), Sioe Gelf Brydeinig 8 (2016–17), Gŵyl Ddwyflynyddol São Paulo (2014), Gŵyl Ddwyflynyddol Busan (2012), a Documenta 12, Kassel, yr Almaen (2007).
Mae hi hefyd wedi cyflwyno arddangosfeydd unigol yn Oriel Akinci, Amsterdam (2025, 2013, 2009, 2005); Amgueddfa Dr Guislain, Gent, Gwlad Belg (2022); Netwerk, Aalst, Gwlad Belg (2019); Württembergischer Kunstverein, Stuttgart, yr Almaen (2018); Yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Llundain (2015); ac Oriel Matt’s, Llundain (2011, 2003).
In a thread of air
Cefnogir In a thread of air gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Freelands,Cyngor Celfyddydau Lloegr a Phrifysgol John Moores Lerpwl.
Cymorth ychwanegol gan Spike Island Exhibition Services.
Mae Oriel Chapter ar agor ddydd Mawrth i dydd Sul, 12–5yp.
Bydd ein oriel ar agor o 2pm ddydd Mercher 20 Mai.
More at Chapter
-
- Art
On hold on
Sophie Mak-Schram
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr.
-
- Art
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Lu Williams
“Siop roddion” y dyfodol lle mae gwrthrychau a phrintiau yn cael eu hail-ddychmygu fel arteffactau diwylliannol ffuglen ddyfaliadol.
-
- Art
COMMS FAIL
Roy Claire Potter
Gosodwaith sain lle mae gwrthrychau, arwynebau a deunyddiau yn dod yn lleisiau gweithredol mewn amgylchedd gwrando ymdrochol.