Art

COMMS FAIL

Roy Claire Potter

Am ddim

Nodweddion

Mae gosodwaith sain newydd Roy Claire Potter yn ehangu ar berfformiad byw a lwyfannwyd am y tro cyntaf yn Lerpwl ac a ddarlledwyd ar Resonance FM, mewn amgylchedd gwrando dros gyfnod o fis. 

Mae COMMS FAIL yn brosiect esblygol, gan symud ar draws perfformiadau, radio, arddangosfeydd a chyhoeddi. Mae pob fersiwn yn adeiladu ar y diwethaf ac wedi’i siapio gan ei gyd-destun cyflwyno newydd.  

Yn yr oriel, caiff sain o’r perfformiad ei hailweithio. Mae deunydd o’r sgript yn cael ei ail-recordio, ac mae elfennau o'r sgôr wreiddiol gan y cyfansoddwr Carmel Smickersgill yn cael eu haildrefnu i amgylchedd sonig newydd. Mae propiau cerfluniol o'r perfformiad, gan gynnwys arluniadau tryloyw mawr, yn cael eu trawsnewid yn wrthrychau â sain sy’n cael ei chario trwy eu harwynebau. 

Mae'r gwaith wedi'i lywio gan ddull awtistig o gyfathrebu, lle nad geiriau yn unig sy'n cario ystyr ond patrwm, rhythm, gwead ac amgylchedd. Mae sain yn symud trwy wrthrychau, arwynebau a chyrff, gan awgrymu math o gysylltiad lle mae deunyddiau'n gyfranogwyr gweithredol yn y ffordd mae cyfathrebu'n cael ei wneud a'i deimlo. 

Ochr yn ochr â'r arddangosfa, mae llyfryn newydd a gynhyrchwyd gyda Café OTO a'i gyhoeddi trwy eu gwasgnod newydd OTOHON, yn casglu deunydd sgript a sgoriau gweledol o'r gwaith, gan wahodd ymwelwyr – a chynulleidfaoedd mewn mannau eraill – i ddychmygu neu ail-lwyfannu eu fersiynau eu hunain o COMMS FAIL

Ymunwch â ni ddydd Gwener 26 Mehefin, 6-8yh i ddathlu’r agoriad.

___ 

Ynglŷn â'r artist 

Artist ac yn awdur sy'n perfformio, arddangos a chyhoeddi yw Roy Claire Potter

Ar draws eu harfer amlddisgyblaethol – sy’n cwmpasu ysgrifennu arbrofol, perfformiadau lleisiol, arlunio, celfyddyd sain a gosodwaith – maen nhw’n ffurfio straeon o ddelweddau darniog a dwys sy’n cyfleu cyrff yn symud, golygfeydd domestig neu leoliadau pensaernïol. Mae diddordeb mewn cyfyngiadau cyfathrebu, is-destun a dilyniant naratif yn siapio'r gwaith yma, sy'n aml yn archwilio deinameg grŵp gymhleth neu ganlyniadau digwyddiadau treisgar, weithiau â hiwmor bwriadol. Maen nhw’n aml yn cydweithio â cherddorion ac artistiaid sain ar gyfer cyd-destunau radio a gwyliau. 

Mae COMMS FAIL yn waith comisiwn Unlimited Partner Award 2025 gyda Gŵyl Ddwyflynyddol Lerpwl, a wnaed yn bosib diolch i Gyngor Celfyddydau Lloegr. Cefnogwyd ymchwil a datblygu drwy haelioni gwobr preswylfa artist gydag Art Explora, Paris yn Cite International des Arts. 

Mae Oriel Chapter ar agor ddydd Mawrth i dydd Sul, 12–5yp.

Share