Art
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Lu Williams
Am ddim
Nodweddion
Arddangosfa newydd gan yr artist Lu Williams yw Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs. Mae’r gosodwaith yma yn ein caffi yn trawsnewid yr amgylchedd bob dydd yn “siop roddion” ddyfaliadol.
Mae cyfres o gerfluniau yn cyfuno resin, golau a thechnolegau digidol i ail-ddehongli’r magnet oergell fel crair yn y dyfodol. Ar draws y gwaith a’r paraffernalia print yma, mae Lu yn archwilio sut caiff gwerth ei ddynodi i’r cyffredin a sut caiff cof ei gadw, ei ddyblygu, a’i gylchredeg yn oes deallusrwydd artiffisial.
Gan ddefnyddio ymchwil i hanes cymdeithasol ac arferion casglu ac atgynhyrchu, mae’r lens ffuglennol yma’n archwilio iaith gyfarwydd y cofrodd – gwrthrychau sy’n cael eu casglu, eu rhoi, a’u pasio i lawr – gan gynnig ffordd o archwilio dosbarth, dyhead a chwaeth.
Mae Lu Williams yn eich gwahodd i ymchwilio sut gallai eich bywyd beunyddiol gael ei bortreadu yn y dyfodol. Mae gwahoddiad i chi gyfrannu dyluniadau i’r gosodwaith esblygol, gan ddefnyddio templedi cylchgronau a phosteri, i gynhyrchu cyd-fyfyrdod ar gof, gwerth, ac ôl-fywyd pethau cyffredin.
Pa mor gyffredin fyddai eich bywyd yn edrych mewn cannoedd o flynyddoedd?
___
Ynglŷn â'r artist
Artist sy’n gweithio ar draws cerflunwaith, print, cylchgronau a phrosiectau cymdeithasol yw Lu Williams. Mae eu harfer yn archwilio hanes cymdeithasol, llafur, a hygyrchedd drwy lens cwiardod, niwroamrywiaeth, a phrofiad dosbarth gweithiol. Gan dynnu ar brosesau casglu, atgynhyrchu a dosbarthu, mae Lu yn dyrchafu gwrthrychau bob dydd a deunyddiau diwylliannol sy’n cael eu diystyru. Nhw yw sylfaenydd Grrrl Zine Fair a chyd-sylfaenydd Dog Ear.
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Comisiynwyd gan Arcade Campfa mewn partneriaeth â Chapter.
More at Chapter
-
- Art
On hold on
Sophie Mak-Schram
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr.
-
- Art
In a thread of air
Imogen Stidworthy
Mae gosodwaith a delwedd symudol Imogen yn ffurfio tirlun sonig-somatig o leisio, wedi’i siapio gan bobl sy’n profi gwahanol ffyrdd o fod.
-
- Art
COMMS FAIL
Roy Claire Potter
Gosodwaith sain lle mae gwrthrychau, arwynebau a deunyddiau yn dod yn lleisiau gweithredol mewn amgylchedd gwrando ymdrochol.