Art
On hold on
Sophie Mak-Schram
Am ddim
Nodweddion
Beth a gaiff ei ystyried yn bŵer, a phwy gaiff ei ddal?
Arddangosfa dwy ran yw Dyfal Droi y Garreg, yn Chapter ac Amgueddfa Cymru, gan Sophie Mak-Schram a chydweithwyr sy’n archwilio sut caiff pŵer ei brofi, ei rannu a’i herio o fewn y sefydliadau yma a’u cyhoedd.
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr. Mae’r delweddau yma, sydd bellach ar gael i’w gweld ac yn rhydd o’r amgueddfa a’i chategorïau, yn eistedd ochr yn ochr â rhai o archif bersonol Sophie. Mae’r ymadrodd ‘ar stop’ (‘on hold’) sy’n cael ei ailadrodd yn sôn am yr addewid parhaus gan sefydliadau o newid at ddyfodol mwy teg a dad-drefedigaethol, ac y gall creu ac aros am y newid yma deimlo fel ein bod ni ar stop yn ddi-ben-draw.
Tu mewn i'n hadeilad, mae ymyriadau gan Sophie a’i chydweithwyr yn creu amodau ar gyfer newid, gan ailddychmygu sut y gallen ni ymgynnull, cydweithio neu weithio gyda'n gilydd ar draws gwahaniaethau. Mae'r syniad yma’n deillio o wrando'n ofalus ar wahanol safbwyntiau a phrofiadau o Chapter yn ystod 2023-2025. Mae gwaith Sophie’n ein cyfeirio tuag at obaith ac at ddal mlaen (‘holding on’) yn hytrach nag ar stop (‘on hold’).
___
Ynglun â'r artistiaid
Mae Sophie Mak-Schram yn ymgysylltu ag eraill mewn gwaith penodol i le mewn perthynas â grym, cydberchnogaeth, gwybodaeth a'r dyfodol. Mae'n gweithio gydag eraill, o ran ei dull a'i ffurf, ac yn tynnu ar arferion profiadol, artistig, dad-drefedigaethu ac ar y cyd er mwyn tynnu pobl at ei gilydd, ail-ddychmygu a dyfeisio. Mae Sophie yn tynnu ar ei phrofiadau personol a chyffredin o wahaniaethau diwylliannol, gwladychiaeth, hil a rhyw.
Mae'n aml yn defnyddio 'offeryn' fel trosiad barddonol a gwrthrych ymarferol i fynd i'r afael â beth rydyn ni'n ei wybod a sut, a pha ran ydyn ni'n ei chwarae yng nghysyniad pŵer a'r syniad o berthyn. Mae Sophie'n dod â phobl ynghyd, yn hwyluso, yn ysgrifennu, yn darllen, yn creu gwrthrychau a'u defnyddio i ddeall neu wrando.
Mae’r gwahanol ddelweddau o gasgliad Amgueddfa Cymru yn cynnwys: Maquette ar gyfer "Ailwarchod Gwarchodwyr Celfyddyd" © Dhruva Mistry, rhubanau Thalia Campbell, drwy garedigrwydd Archif Campbell, a ffont wedi'i deilwra yn seiliedig ar fwydlen tecawê Hong Kong (Amgueddfa Cymru, 1993.248/146.44), wedi'i ddylunio gan Sophie Lindsey.
Gosodwaith ar yr hysbysfwrdd
Darn o waith celf deunaw metr o led a gomisiynwyd ar gyfer yr hysbysfwrdd uwch ben ein prif fynedfa.
More at Chapter
-
- Art
In a thread of air
Imogen Stidworthy
Mae gosodwaith a delwedd symudol Imogen yn ffurfio tirlun sonig-somatig o leisio, wedi’i siapio gan bobl sy’n profi gwahanol ffyrdd o fod.
-
- Art
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Lu Williams
“Siop roddion” y dyfodol lle mae gwrthrychau a phrintiau yn cael eu hail-ddychmygu fel arteffactau diwylliannol ffuglen ddyfaliadol.
-
- Art
COMMS FAIL
Roy Claire Potter
Gosodwaith sain lle mae gwrthrychau, arwynebau a deunyddiau yn dod yn lleisiau gweithredol mewn amgylchedd gwrando ymdrochol.