Art

Sophie Mak-Schram a chydweithredwyr: Dyfal Droi y Garreg

Nodweddion

Beth a gaiff ei ystyried yn bŵer, a phwy gaiff ei ddal?

Arddangosfa dwy ran yw Dyfal Droi y Garreg, yn Chapter ac Amgueddfa Cymru, gan Sophie Mak-Schram a chydweithwyr sy’n archwilio sut caiff pŵer ei brofi, ei rannu a’i herio o fewn y sefydliadau yma a’u cyhoedd.

Ers 2023, mae Sophie wedi bod yn gweithio gyda staff yn Chapter ac Amgueddfa Cymru, yn ogystal ag ymgyrchwyr, gweithwyr cymunedol ac artistiaid i ddatblygu ‘offer’ cydweithredol sy’n herio ac yn ailddychmygu strwythurau pŵer.

Yn Chapter, gan ganolbwyntio ar ein caffi – lleoliad masnach, llafur a hamdden – mae Sophie a’i chydweithwyr wedi bod yn ailddychmygu’r ffyrdd gallen ni gynnull, ymlacio a chysylltu yn y man cyhoeddus yma. Mae ‘offer’, gan gynnwys sgriniau plygu, tecstilau a gwaith sain, yn meddalu’r bensaernïaeth ac yn creu gofodau ar gyfer arafwch, preifatrwydd a gwrando. Mae gwaith celf o Gasgliad Allgymorth Ysgolion (1951–1990au) yr amgueddfa, sy’n gasgliad o wrthrychau a gwaith celf a fu’n ymweld ag ysgolion ledled Cymru, wedi’u harddangos ar y waliau. Mae dosbarthiad a symudedd y gwaith celf yma’n codi cwestiynau ynghylch sut rydyn ni’n ymgysylltu â chelf ar ein telerau ni y tu allan i sefydliadau diwylliannol a’u fframweithiau curadurol.

Mae hysbysfwrdd Sophie’n cynnwys gwaith celf a gwrthrychau o Amgueddfa Cymru a deunyddiau maen nhw wedi’u diystyru: gwydr a ganfuwyd yn y llawr isaf a ffurfdeip a ddyluniwyd yn seiliedig ar eitem a ddiystyriwyd o’u casgliad, ochr yn ochr â delweddau o archifau Sophie. Yn arnofio ar draws yr awyr a’r wyneb allanol, ac yn cyd-fynd â’r delweddau yma, mae’r dyfyniad ‘on hold’, a thrwy ei ailadrodd caiff ei drawsnewid i’r dywediad ‘hold on’. Er bod sefydliadau’n addo’n barhaus i newid at ddyfodol mwy teg a dad-drefedigaethol, gall creu ac aros am y newid yma deimlo fel ein bod ni ar stop (on hold) yn ddi-ben-draw.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae gwaith Sophie yn Chapter ac Amgueddfa Cymru wedi tarfu ar strwythurau a ffyrdd o weithio er mwyn ailystyried dosbarthiad pŵer. Mae’r gwaith yma’n golygu bod modd dychmygu sut gallai newid edrych a sut gall newid ddod i’r amlwg yn ein sefydliadau diwylliannol. Mae gwaith Sophie’n ein cyfeirio tuag at obaith a ‘dal mlaen’ (hold on).

Bydd rhaglen gyhoeddus o ddigwyddiadau yn Chapter ac Amgueddfa Cymru yn cyd-fynd â Dyfal Droi y Garreg. Mae hyn yn cynnwys y chlwb rhedeg am ddim sy’n digwydd ddwywaith y mis, rhwng Chapter a’r Amgueddfa Genedlaethol, lle bydd gweithiau celf o Dyfal droi y Garreg yn cael eu gwisgo a phobl yn rhedeg gyda nhw.

___

Ynglun â'r artistiaid

Mae Sophie Mak-Schram yn ymgysylltu ag eraill mewn gwaith penodol i le mewn perthynas â grym, cydberchnogaeth, gwybodaeth a'r dyfodol. Mae'n gweithio gydag eraill, o ran ei dull a'i ffurf, ac yn tynnu ar arferion profiadol, artistig, dad-drefedigaethu ac ar y cyd er mwyn tynnu pobl at ei gilydd, ail-ddychmygu a dyfeisio. Mae Sophie yn tynnu ar ei phrofiadau personol a chyffredin o wahaniaethau diwylliannol, gwladychiaeth, hil a rhyw.

Mae'n aml yn defnyddio 'offeryn' fel trosiad barddonol a gwrthrych ymarferol i fynd i'r afael â beth rydyn ni'n ei wybod a sut, a pha ran ydyn ni'n ei chwarae yng nghysyniad pŵer a'r syniad o berthyn. Mae Sophie'n dod â phobl ynghyd, yn hwyluso, yn ysgrifennu, yn darllen, yn creu gwrthrychau a'u defnyddio i ddeall neu wrando.

Ynglun Safbwynt(iau)

Mae Safbwynt(iau) yn broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio creu newid sylweddol yn y ffordd mae'r sector treftadaeth a chelfyddydau gweledol yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig a diwylliannol ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r cywaith i wireddu amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.


Roedd y prosiect yma’n cynnwys y cydweithwyr a'r cyfranwyr canlynol:

George H. Wale, Rubie, Rounak Maiti, Kelly Lloyd, Katherine Agyemaa Agard, Christine Mak, Chris Adam, Mohammadali Mirzaei Souzani, Osian Grifford, Brynn Alred, Bianca Ali, Aliyy Azad Malik, Neil Coe, Mathew Salley, Amira Hayat, Hiba Fatima Ahmad, Ben Scattergood, John Thomas, Rhys Trimble, Polly Thomas-Colquhoun, Joseff Llewellyn, Frances Abigail Bolley, Parham Ghalamdar, San Ramos, Sonia Odedra, Salah Baba Rasool, Fahadi Mukulu, Umulkhayr Mohamed, Chantelle Lue, Sophie Lindsey, Rosey Brown, Oska VonRuhland, Meg Shergold, Silvia Dimitrova, Lia Parry and Isimbi Sebageni.

Gyda diolch i staff Chapter ac Amgueddfa Cymru am gymryd rhan, cefnogi a stiwardio'r gwaith yma.

Share

To Shift a Stone