Celf
Dream Inheritances
Sophie Mak-Schram and Alice Rekab
Am ddim
Nodweddion
Archwiliad o hunaniaethau hil gymysg, perthyn diwylliannol a hanesion a rennir ar draws Cymru ac Iwerddon.
Mae Dream Inheritances yn trafod arferion yr artist o Gaerdydd Sophie Mak-Schram a’r artist o Ddulyn Alice Rekab. Gan archwilio hanesion mudo a pherthyn, gyda’i gilydd maen nhw’n myfyrio ar sut mae naratifau personol a hanesyddol o wladychiaeth, ieithoedd dan ormes a chymunedau ar wasgar yn rhyngblethu.
Gan ddefnyddio "No Blacks No Dogs No Irish” fel man cychwyn – arwydd a oedd i’w weld yn aml ger porthladdoedd, gan gynnwys Dociau Caerdydd – mae’r arddangosfa’n gofyn: pa waddol o allgáu ydyn ni wedi’i etifeddu, a pha ddyfodol allwn ni ei ddychmygu o’r gwaddol hwnnw? Sut gall cymysgwch fod yn fan potensial i ail-lunio hanesion a rhag-lunio dyfodol? Gan feddwl am gymysgwch fel man cyswllt i ffyrdd dad-drefedigaethol fodoli ynddo, mae’r artistiaid yn ymgysylltu â’u hanesion eu hunain, hanesion ei gilydd, hanesion Cymru ac Iwerddon, yn ogystal â’r gorgyffwrdd rhyngddynt.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys paentiadau, cerflunwaith a gwaith wal newydd, gan gynnwys darnau cydweithredol a wnaed ar y cyd mewn sgwrs gyda Chlwb Ieuenctid Warws Glan-yr-Afon Mae stafell fyw, sy’n cynnwys dodrefn sydd un ai wedi’i fenthyg gan nain a taid Rekab a Mak-Schram neu’n debyg iddo, yn eich gwahodd chi i orffwys mewn man gwahanol o berthyn.
Ochr yn ochr â hyn, mae Rekab a Mak-Schram wedi gwahodd dau artist o’r Mwyafrif Byd-eang i gyfrannu gwaith, ac maent hefyd wedi gweithio gyda dau Gynhyrchydd Ifanc o Lan-yr-Afon ar raglen ddigwyddiadau i gyd-fynd â’r arddangosfa.
___
Ynglŷn â'r artistiaid
Mae Sophie Mak-Schram yn artist y mae eu gwaith yn cynnwys ymchwil artistig, addysgeg radical a gwaith cydweithredol lle-benodol ar bŵer, casglebedd, dealltwriaethau a dyfodolau. Mae Sophie yn gweithio gydag eraill i greu mannau ar gyfer cyd-ddysgu, rhag-lunio mathau o berthyn, a dychmygu perthnasau newydd. Mae’r gwaith yma’n cael ei lywio gan brofiadau personol a chyffredin o wahaniaeth diwylliannol, gwladychiaeth, hil a rhywedd.
Gan ddefnyddio ‘offer’ fel trosiad – fel gwrthrych barddonol ac ymarferol – maen nhw’n gweithio gyda chydweithwyr i greu teclynnau sy’n gallu symud pŵer, cynnull grwpiau a chynnig ffyrdd newydd o berthyn (i’n gilydd, i le, i sefydliadau) yn wahanol. Gallai’r offer fod yn ddogfen hygyrchedd, yn brotocol diogelu radical, neu’n ddarn o destun croeso wedi’i gyd-ysgrifennu, neu gallai fod yn ddarn o serameg y gallwch ei gyffwrdd yng nghyd-destun amgueddfa ‘peidiwch â chyffwrdd’, yn uwchseinydd neu’n glustog swreal.
Mae eu prosiectau diweddar yn cynnwys Dyfal droi y Garreg (2025-2026), a gomisiynwyd gan Amgueddfa Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter a Stretching Thresholds, Holding Streams (2024-2025) mewn cydweithrediad â Jeanne van Heeswijk, a gomisiynwyd gan Amgueddfa Celf Gyfoes Migros, y Swistir. Bydd eu monograff cyntaf, Pedagogies of the Art-Proximate, yn cael ei gyhoeddi gan Robida ddiwedd 2026.
Artist ac addysgwr yn Nulyn yw Alice Rekab. Yn eu gwaith, mae Alice yn archwilio naratifau personol a diwylliannol ymwreiddiedig; y straeon rydyn ni’n eu hadrodd a’r straeon rydyn ni’n eu clywed amdanon ni ein hunain. Mae’r gwaith yma’n deillio o’u hunaniaeth Wyddelig hil gymysg, eu hanes teuluol, eu profiadau yn tyfu i fyny, a’r cyd-destun presennol yn Iwerddon. Gan weithio ar draws ffilm, cerflunwaith, perfformiadau, print a gosodwaith, maen nhw’n mynd ati’n fedrus i ystyried yr hyn sy’n creu teimlad rhywun o berthyn drwy brism y corff, y teulu, a’r wladwriaeth, gan archwilio’r llawenydd a’r trawma cysylltiedig.
Yn dilyn arddangosfa unigol yn Amgueddfa Villa Stuck, München (2023) a The Douglas Hyde, Dulyn (2021-22), aeth arddangosfa unigol ddiweddar Rekab Mythlantics (2025-26) ar daith i SIRIUS, Cobh; Canolfan Gelfyddydau Galway; Oriel Highlanes, Drogheda; ac Oriel Dinas Limerick. Cafodd eu gwaith ei gynnwys yng Ngŵyl Ddwyflynyddol Lerpwl 2025, a chaiff ei gadw yng nghasgliadau Coleg y Drindod Dulyn, IMMA, Ymddiriedolaeth Cathal Ryan a Chyngor Celfyddydau Iwerddon.
More at Chapter
-
- Celf
On hold on
Sophie Mak-Schram
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr.
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Celf
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Lu Williams
“Siop roddion” y dyfodol lle mae gwrthrychau a phrintiau yn cael eu hail-ddychmygu fel arteffactau diwylliannol ffuglen ddyfaliadol.
-
- Celf
COMMS FAIL
Roy Claire Potter
Gosodwaith sain lle mae gwrthrychau, arwynebau a deunyddiau yn dod yn lleisiau gweithredol mewn amgylchedd gwrando ymdrochol.