Mae Chapter yn cyflwyno In a thread of air, arddangosfa fawr gyntaf Imogen Stidworthy ym Mhrydain ers dros ddegawd.
- Published:
In a thread of air yw arddangosfa unigol gyntaf Imogen Stidworthy ym Mhrydain ers dros ddegawd, ac mae’n dwyn ynghyd glwstwr o bedwar gosodwaith sy’n cynnwys gwaith newydd a gwaith sydd heb ei arddangos yng ngwledydd Prydain.
Ers dros ddeng mlynedd ar hugain, mae gwaith Stidworthy yn edrych ar wahanol ffurfiau ar leisio, gan fyfyrio ar ystyr bod â llais ac ystyr gwrando. Mae ei gwaith yn datblygu drwy dreulio amser gyda phobl sy’n ymgorffori gwahanol ffyrdd o fod. Yn ffurfiau soniarus a gofodol ei gosodweithiau a'i ffilmiau, caiff gwahaniaeth ei ymgorffori mewn sawl cywair o gyfathrebu. Mae'r gweithiau hyn yn ein gwahodd ni i drigo mewn gofodau rhwng ieithoedd ac ymgyfarwyddo â mathau anghyfarwydd o leisio gydag eraill ac ynon ni ein hunain.
Mae In a thread of air yn gofyn i ni wrando ar eraill drwy eiriau llafar a synau anllafar, ystumiau, symudiad, dirgryniad, rhythm, ceryntau teimlad ac awyrgylchoedd. Mae'r arddangosfa’n ymgysylltu ag amleddau cyfathrebu mewn cyd-destunau unigryw, gan gynnwys ysbyty, clinig adsefydlu, therapi grŵp, a chymuned amgen i blant anllafar – gofodau lle mae ffyrdd o fod yn dod i stop ac yn cael eu hailgyflunio. Drwy gyfres o bortreadau clòs a chynnil, wedi'u ffurfio o’r gair llafar, ymadroddion a pherthnasau gofodol, gwelwn fywydau mewn cyflwr o newid, ac mae ffurfiau newydd o wneud synnwyr yn dod i'r amlwg.
Yn Balayer - A Map of Sweeping (2014-18) rydyn ni’n profi cyfnewid geiriau a llif cyfathrebu rhwng pobl awtistig sydd heb arfer o siarad. Mae'r gymuned fach yma’n ymgorffori olion byw'r 'rhwydwaith' (réseau) a phrosiect gweledigaethol arbrofol a sefydlwyd gan y Ffrancwr Fernand Deligny (1913-1996), addysgwr, awdur a gwneuthurwr ffilmiau ym Monoblet (Cevennes, Ffrainc). Yma, roedd oedolion a phlant awtistig anllafar yn byw gydag oedolion, ‘presenoldebau agos', y tu allan i fframweithiau sefydliadol neu therapiwtig. Mae'r gosodwaith yn dangos cipolwg ar fywyd bob dydd yn y sefyllfa gyfoes, gan gynnwys dau o'r plant sydd bellach yn oedolion, sydd wrthi'n gwneud gweithgaredd creu marciau. Yn absenoldeb cyfathrebu llafar, mae'n eich annog i symud rhwng gwahanol gyweiriau gwybyddol a synhwyraidd. Mae'r trac sain ambisonig yn herio arferion gwrando ac yn creu polyffoni gofodol o rythmau, synau a symudiadau.
Mae'r arddangosfa’n ymgysylltu â phobl sy'n siarad mewn gofodau o drawsnewid rhwng realiti a gaiff ei siapio gan newidiadau sydyn yn y corff neu'r meddwl. Rydyn ni’n cwrdd â nhw mewn deliriwm, mewn seicosis, neu ar y llwybr araf a gwydn at iachâd ar ôl digwyddiad iechyd mawr.
Mae If I Knew What Giving Up Looks Like (2025) yn symud rhwng coma ac ymwybyddiaeth. Mae'n seiliedig ar ddeialogau gyda staff a chleifion ac ar arfer meddwl-corff-llais a ddyfeisiwyd yn benodol ac a gynhaliwyd gyda chleifion gan yr artist yng Nghlinig Adsefydlu Lippoldsberg (yr Almaen) rhwng 2019 a 2021. Yn y gosodwaith, gwelwn fywyd mewn newid sy'n addasu i allu corfforol a meddyliol sydd wedi'i newid yn radical, a phrosesau corfforol a meddyliol adsefydlu.
Mae STILL LIFE BABEL (2025) yn cario tri llais a delweddau o gerfluniau gwellt bach, wedi’u gwnïo â phwythau meddygol, ac wedi'u taflunio dros bwll o olew petrolewm. Mae pob llais yn y gosodwaith yn ymgorffori bod rhwng cyflyrau seicig a’r realiti maen nhw’n eu cynhyrchu. Mae strwythurau iaith a gwellt yn dal at ei gilydd mewn ffyrdd bregus. Mae gwerthoedd yn cael eu gwrthdroi. Mae ystyron yn symud neu’n troi o fod yn bwyntiau cyfeirio cyfarwydd ac mae lleisiau yn llwybrau i’r byd ac i greu bydoedd.
Mae gosodwaith newydd Stidworthy, In a thread of air (2026) a gyd-gomisiynwyd gan Chapter ac Oriel Matt’s, Llundain, yn canolbwyntio ar arfer grŵp dan arweiniad y therapydd o Sweden Iris Johansson. Caiff ei dull ei lywio gan ei chanfyddiad synhwyraidd a chymdeithasol, fel unigolyn awtistig a oedd yn anllafar nes iddi fod yn 12 oed. Mae'r gosodwaith yn dangos synau a darnau o’r broses therapiwtig, ac yn ymgysylltu â dimensiynau diriaethol ac anniriaethol y “gwaith go iawn” sy'n digwydd yn y cyrff a rhyngddynt.Bu i'r cyweiriau cyfathrebu hyn ac arfer Johansson siapio llwyfaniad ac iaith ffilmaidd y golygfeydd a recordiwyd dros dridiau mewn sesiwn Gwaith Meddwl Cynradd, yn 2025. Yn y gosodwaith, cânt eu cyfleu gan y rhyngchwarae rhwng llais, cyrff a delweddau tafluniol sy'n chwarae dros sgriniau anhryloyw a thryloyw.
Hefyd i'w weld yn yr arddangosfa mae Iris [A Fragment] (2018), a ddechreuodd ddeialog hirdymor Stidworthy gydag Iris Johansson. Ffilmiwyd y gwaith yn Dahab, yr Aifft a Fagersta, Sweden, lle mae Johansson yn byw ac yn gweithio, rhwng 2017 a 2018.
“Dw i’n dal i fod yn awtistig a bydd rhan ohona i bob amser yn anllafar.” Drwy lens canfyddiad awtistig Johansson, mae'r gwaith yn gofyn sut mae gwahanol ffyrdd o fod yn effeithio ar ein canfyddiad o agweddau craidd ar brofiad – ein cyrff, mannau ffisegol, perthynas gymdeithasol, gwneud synnwyr, a'n synnwyr o'n hunan.
Cefnogir In a thread of air gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Freelands,Cyngor Celfyddydau Lloegr a Phrifysgol John Moores Lerpwl.
Cymorth ychwanegol gan Spike Island Exhibition Services.