Rydyn ni’n gwneud newidiadau i’n horiau gweithredu

  • Published:

Eleni, rydyn ni’n dathlu 55 mlynedd o Chapter.

Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae angen i ni wneud pen­d­er­fyniadau anodd i sicrhau bod modd i ni barhau i gefnogi artistiaid, cynul­leid­faoedd a gweithgarwch creadigol. Mae hyn yn cynnwys addasu ein horiau gweithredu. 

Ein horiau newydd

O ddydd Sul 29 Mawrth ymlaen: 

 OrielCaffi CeginBar
Llun – Mercher12–5pm
(aros ar gau ddydd Llun)
9am – 7pm12*–6pm12–9pm 
Iau – Sadwrn 12–5pm9am – 8pm12*–8pm12–10pm 
Sul12–5pm 9am – 7pm  12*–3pm neu tan i ni werthu allan12–9pm  

*Bydd toesenni ar gael o 9am ymlaen. 


Drwy ganolbwyntio ar y dydd ac yn gynnar gyda’r nos – pan mae’r rhan fwyaf ohonoch chi’n treulio amser yma – gallwn barhau i gefnogi pawb sy’n dod trwy ein drysau. 

O ddydd Gwener 1 Mai ymlaen, byddwn ni ar agor o 9am ymlaen (yn lle 8.30am).

Fel llawer o sefydliadau ar draws sectorau’r celfyddydau a lletygarwch, rydyn ni’n wynebu tirwedd ariannol heriol. Fel elusen, rydyn ni’n cael rhywfaint o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae dros 90% o’n hincwm yn dod o werthu tocynnau, llogi ystafelloedd, y caffi bar, a rhoddion. 

Ers Covid, mae arferion cynulleidfaoedd wedi newid, ac mae costau wedi cynyddu ym mhob man. Mae llai o bobl yn ymweld yn hwyrach yn y nos, mae platfformau ffrydio wedi effeithio ar bresenoldeb yn y sinema, ac mae cynnal digwyddiadau a’n caffi yn ddrytach nag erioed. 

Hoffem ddiolch i chi gyd – ein cynulleidfaoedd, ein cymdogion a’n cyfeillion – am fod yn rhan o Chapter. Bob tro rydych chi’n prynu tocyn, yn prynu paned o de, yn gwneud rhodd (waeth pa mor fach) neu’n dod yn Ffrind Chapter, rydych chi’n ein helpu ni i gadw’n drysau ar agor. 

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gyfnod anodd i bawb, felly rydyn ni’n ddiolchgar am bob ymweliad a phob cefnogaeth. 

Ymlaen i’r 55 mlynedd nesaf gyda’n gilydd! 
 

Rhoddion yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’n helpu ni, gan ein bod ni’n derbyn 100% o’r hyn rydych chi’n ei roi i ni.