Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

DYFARNIADGORUCHEL LYS AR GYDNABYDDIAETH RHYWEDD

  • Published:

Rydyn ni’n siomedig ac yn hynod bryderus ynghylch dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys nad yw hawliau menywod sy’n seiliedig ar ryw yn cynnwys menywod traws. Rydyn ni’n credu y bydd hyn yn arwain at oblygiadau niweidiol i bobl Draws ac LHDTCRhA+. 

Rydyn ni’n sefyll mewn undod gyda phobl draws, rhyngryw ac anneuaidd, ac yn falch o ddathlu Chapter fel sefydliad sy’n cydnabod hawliau pobl i hunan-adnabod.

Bydd y penderfyniad yma’n effeithio ar nifer o’n timau, eu ffrindiau a’u teuluoedd, a’r grwpiau a’r unigolion sy’n ymweld â ni. Rydyn ni’n gweithio i gynnwys, ac nid gwahaniaethu, a hoffem i bawb deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu mwynhau eu profiad gyda ni. 

I’n ffrindiau a’n cymunedau traws, os oes angen lle tawel arnoch i ymgynnull, myfyrio a thrafod, gallwn gynnig Gofod Cymunedol Peilot am ddim i chi. Os hoffech ei archebu, anfonwch e-bost at [email protected].

Er diogelwch a chysur pawb, mae ganddon ni dai bach pob rhywedd ac un rhywedd drwy gydol yr adeilad. Mae Cod Ymddygiad ganddon ni hefyd a gofynnwn i’n holl gydweithwyr ac ymwelwyr weithredu’n unol â’r cod.

Cymorth
Trans Aid Cymru: [email protected]
Llinell Gymorth Gendered Intelligence: 0800 640 8046, WhatsApp ar 07592 650496, e-bost[email protected]
Llinell Gymorth LHDT+ Cymru: 01792 650777
Umbrella Cymru: 0300 302 3670 neu [email protected]