Roy Claire Potter: COMMS FAIL

  • Published:

27 Mehefin – 1 Awst

Bu farw ffonau yn y pen draw. Clywsom eu signalau olaf yn trosglwyddo yn y tywyllwch.

Mae’r awdur-artist a pherfformiwr Roy Claire Potter yn agor eu harddangosfa unigol sefydliadol gyntaf yn Chapter gyda COMMS FAIL, gwaith celf naratif newydd am y posibilrwydd dystopaidd o fethu â chyfathrebu.

Yn ymagor ar draws arddangosfeydd, perfformiadau, darllediadau, cyhoeddiadau print a sain drwy gydol 2026, ac wedi’i datblygu gyda thîm o gyd-artistiaid awtistig, seryddwyr radio, gweithredwyr radio amatur, cerddorion ac ymgynghorwyr creadigol, mae COMMS FAIL yn archwilio gramadeg gwytnwch cyfathrebol a chysylltiad o bell drwy hyrwyddo safbwyntiau awtistig.

Mae COMMS FAIL yn mynd ati’n ddyfaliadol i gymysgu ymchwil i alldafliadau màs coronol, neu ffrwydradau ynni mawr o’r haul, gyda pharanoia poblogaidd am fomiau pwls electromagnetig, sef math o arf niwclear a ddatblygwyd i gael gwared â systemau lloeren, gan ddifetha electroneg a gridiau pŵer yn y broses. Yn rhan o’r cymysgedd yma mae Roy yn archwilio’r ddelwedd boblogaidd o’r radio tonfedd fer mewn ffantasïau dystopaidd sy’n dangos i ni cymaint mae cymuned yn dibynnu ar gyfathrebu da. Yn naratif Roy, yr haul sydd wedi achosi’r fath drychineb, ac yn y broses, mae wedi electromagneteiddio cyrff a’u hamgylcheddau, gan achosi iddyn nhw ryddhau a derbyn signalau a gwneud math gwahanol o gyfathrebu yn bosib.

Mae’r arddangosfa yma’n cyflwyno amgylchedd gwrando cerfluniol lle mae darluniau tâp gludiog ac inc graddfa fawr, a wnaed mewn ymateb i astroddynameg fflachiadau solar, yn arnofio ar bolythen bioddiraddadwy tryloyw ac yn ffurfio strwythurau tebyg i bebyll wedi’u llywio gan ddiwylliant paratowyr. Oddi tanynt, byddwch yn clywed elfennau o ddarllediadau radio brys a threfniannau o gerddoriaeth wreiddiol y cyfansoddwr Carmel Smickersgill ar gyfer y prosiect, yn ogystal â statig radio byw ac o bosib, darllediadau radio byw gan y gymuned radio amatur ryngwladol.

Datblygwyd COMMS FAIL drwy weithdai creadigol gyda Jamie Gawronski, Elodie Horsewell, Andrew Li, Rima Salem, Anya Taylor, ac fe’i cefnogwyd drwy waith ymgynghori gyda’r cynhyrchydd sain Kit Callin, Erik Chancy (LB1KJ) o Norsk Radio Relæ Liga, Philippe Zarka, Cyfarwyddwr Ymchwil CNRS yn Observatoire de Paris, a gan waith yr Athro Philippa Browning yng Nghanolfan Astroffiseg Jodrell Bank ym Mhrifysgol Manceinion a oedd yn ganlyniad i gomisiwn gan Wobrau Partner y DU Unlimited 2025 gyda Gŵyl Ddwyflynyddol Lerpwl, a wnaed yn bosib diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, gyda’r gwaith ymchwil a datblygu wedi’i gefnogi drwy haelioni Art Explora, Paris.

Dangoswyd COMMS FAIL am y tro cyntaf fel perfformiad llwyfan byw ar gyfer tri llais yn Bluecoat, Lerpwl, ar 2 Mai 2026, gyda darllediad radio ar yr un pryd ar Resonance FM. Yn ddiweddarach yn yr haf, bydd cyhoeddiad print yn cynnwys sgript a sgoriau gweledol yn cael ei gyhoeddi o dan wasgnod cyhoeddi newydd Cafe OTO, sef OTOHON. Bydd fersiwn albwm o’r gwaith yn cael ei ryddhau ar eu label digidol nes ymlaen eleni, gyda’r holl elw yn mynd i’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol.

___

Bywgraffiad yr artist

Awdur-artist sy’n perfformio yw Roy Claire Potter. Maen nhw wedi cyflwyno gwaith byw a gwaith wedi’i recordio yn ddiweddar gyda: Bluecoat, Lerpwl (2026); Gŵyl Gelfyddydau Ffilm a Chyfryngau Berwick (2026), Channel yn Somerset House (2025); Serpentine Park Nights (2025), Canolfan ar gyfer Celfyddydau Electronig Bergen (2024), PRIMARY (2022/3), Counterflows yn Cafe OTO (2022), a BBC Radio 3 (2020). Mae ganddynt arddangosfeydd unigol a grŵp wedi’u cyflwyno’n rhyngwladol yn A plus A, Fenis (2023; 2018); Artissima, Turin (2019); Oriel IMT, Llundain (2019); OUTPUT, Liverpool (2019); a ChelseaSPACE, Llundain (2018) ymhlith eraill. Yn 2024, cyhoeddwyd eu nofel ‘ysgafn arbrofol’ The Wastes gan Book Works, gyda Katrina Palmer yn olygydd gwadd, ar gyfer ‘Arrhythmia’, sef cyfres o lyfrau artist sy’n archwilio syniadau o fod allan o gydweithrediad â’r brif drefn gymdeithasol

Mae COMMS FAIL yn waith comisiwn Unlimited Partner Award 2025 gyda Gŵyl Ddwyflynyddol Lerpwl, a wnaed yn bosib diolch i Gyngor Celfyddydau Lloegr. Cefnogwyd ymchwil a datblygu drwy haelioni gwobr preswylfa artist gydag Art Explora, Paris yn Cite International des Arts.