Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Uchafbwyntiau Chapter Mis Gorffennaf

  • Published:

Dywedwch helo i'n harddangosfa ddiweddaraf yn ein horiel! Jenő Davies ac Iolo Walker: Mae Meadowsweet Palisade yn bricolage o gerfluniau, tecstilau a ffilm naratif. Ymunwch â ni ar gyfer y penwythnos lansio: byddwn yn dathlu'r agoriad ar 28 Mehefin, 6-8pm a dangosiad o'r stori dod-i-oed traws, The People's Joker ar 29 Mehefin, 4.30pm.

Ydych chi wedi gweld y gosodiad diweddaraf yn ein bar caffi? Gwaith celf cydweithredol teithiol yw Feeding Chair sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u plant mewn lleoliadau cyhoeddus.

Ymunwch â ni am yr ail mewn cyfres o gynigion tymhorol gan Bragod. Cyfansoddiad newydd gan Bragod yw 'Summer Heats' mewn deialog gyda John Mills a Kate Price, a fydd yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol o Sweden.