Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Uchafbwyntiau Chapter mis Chwefror

  • Published:

Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig drwy gydol y mis, gan gynnwys dangosiad o ffilm newydd y gasgleb o Gaerdydd, Jukebox Collective, Of Us, a dangosiad cyntaf Cymru o Protein, ffilm gyffro dywyll a doniol gan grewyr y ffilm ffuglen wyddonol Canaries.

Ymunwch â ni ar 1-2 Chwefror mewn penwythnos o weithdai a pherfformiadau gwrando dwfn a pherfformiadau i ddathlu bywyd y gyfansoddwraig chwedlonol Pauline Oliveros, dan arweiniad yr artist preswyl Dan Johnson.

Ydych chi wedi clywed am y Jams Neo-eneidiol sy’n cael eu cynhyrchu gan Tân Cerdd? Mae’r noson fisol newydd yma o gerddoriaeth, cysylltu a chydweithio yn cynnig lle i jamio, rhwydweithio, neu fwynhau’r awyrgylch.