Uchafbwyntiau mis Hydref

  • Published:

Mae rhaglen yr oriel yn cyflwyno Sophie Mak Schram a’i chydweithwyr: Dyfal droi y Garreg, sef arddangosfa ddwy ran sy’n archwilio sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio. Mae Held Fast: Running Club yn troi rhedeg yn weithred greadigol o gysylltu, ac o 24 Hydref ymlaen byddwn yn dangos gwaith Sancintya Mohini Simpson ar gyfer Artes Mundi 11, wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Sefydliad Bagri.

Ar lwyfan, mae Andre Stitt: The Institution (Revisited) yn archwilio cof a'i fethiannau, mae SERAFINE1369: (my body / running wild / this animal) glorious yn troi dawns yn ddefod o bresenoldeb a phrofiad a rennir, ac mae Performance Art Land yn dod â gweithiau perfformio sy'n seiliedig ar safleoedd naturiol a threftadaeth i'r sgrin.

Yn ein sinema, mae Watch Africa: Manyatta yn cyflwyno rhaglen o ffilmiau byrion o Affrica sy'n neidio o un genre i'r llall sy’n archwilio hunaniaeth a dyhead, mae Gŵyl Ffilmiau Llundain y BFI yn goleuo ein sgrin gyda'r gorau o sinema'r byd, ac mae Gwobr Iris unwaith eto'n dathlu straeon LHDTC+ yn eu holl gyfoeth.

Rydyn ni hefyd yn eich gwahodd i Garth Evans: A Place in the World – digwyddiad arbennig yn YMa ym Mhontypridd sy’n myfyrio ar sut mae celf yn siapio cof, gwaddol a pherthyn.