Uchafbwyntiau mis Ionawr
- Published:
Dechreuwch y flwyddyn newydd gyda digon o chwerthin, myfyrio a chreadigrwydd.
Yn y theatr, mae Dr Dean Burnett yn dathlu deng mlynedd ers rhyddhau ei lyfr poblogaidd The Idiot Brain gyda noson o wyddoniaeth, hiwmor, cerddoriaeth, a her sbeislyd wedi’i hysbrydoli gan gyfres ‘Hot Ones’ i gloi.
Ar y sgrin, mae Reclaim the Frame: Hamnet yn werth ei gweld; wedi’i chrefftio’n hyfryd gan Chloé Zhao, dyma chwedl sy’n archwilio cariad, colled, a chreadigrwydd, gyda gweithdy cwiltio gydag Ophelia Dos Santos i ddilyn. Rydyn ni hefyd yn dangos Sentimental Value, ffilm am wneuthurwr ffilm sy’n ceisio castio’i ferch ddieithr mewn ffilm am ei fywyd, a Marty Supreme, sy’n dilyn stori dyn ifanc sy’n mynd ar drywydd mawredd.
Ewch ar daith BSL o arddangosfa Artes Mundi 11 Sancintya Mohini Simpson gydag Our Visual World, ac ymunwch â ni ar gyfer finissage Sophie Mak-Schram a’i chydweithwyr: Dyfal droi y Garreg, sy’n archwilio sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio yn Chapter ac Amgueddfa Cymru.
Mae ein Cèilidh am ddim blynyddol i ddathlu Noson Burns ’nôl! Ymunwch â ni o 6pm ymlaen, lle byddwn ni’n gweini tameidiau blasus o’r Alban ac ystod o wisgi i’ch cael chi i hwyliau.
Mae digwyddiadau rheolaidd i’w mwynhau hefyd, gan gynnwys sesiynau wythnosol Gwerin yn y Bar a’r digwyddiad misol Jazz yn y Bar, neu ymunwch â’r Caffi Trwsio i drwsio, dysgu a chysylltu gyda’ch cymuned.