
Rydyn ni wedi cyrraedd rownd derfynol Art Fund Museum of the Year 2025!
- Published:
Rydyn ni’n falch o fod wedi cyrraedd rownd derfynol Art Fund Museum of the Year 2025 – y wobr fwyaf yn y byd i amgueddfeydd – ochr yn ochr â Compton Verney (Swydd Warwick); Oriel Golden Thread (Belffast) ac Amgueddfa Perth (Perth & Kinross).
Llongyfarchiadau i Amgueddfa Beamish ar eu buddugoliaeth haeddiannol.
“Being shortlisted for the UK’s largest museum prize is only possible because of the brilliant and dedicated people who make us – our communities, colleagues, volunteers, artists and collaborators. We thank them all for their commitment, energy and creativity.
Museums and arts centres are spaces of joy and imagination and we need them now, more than ever. They’re places that nurture connections to help us reflect on our histories, make sense of the present and imagine radical futures.
This approach has been at the centre of our story for 55 years and we hope will continue to inspire audiences for years to come.”
Ar banel beirniadu 2025, dan gadeiryddiaeth cyfarwyddwr Art Fund, Jenny Waldman, roedd: Rana Begum (Artist), Dr David Dibosa (Cyfarwyddwr Ymchwil a Dehongli, Tate), Jane Richardson (Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru) a Phil Wang (Digrifwr, Awdur, Actor). Ymwelodd y beirniaid â phob un o’r amgueddfeydd a gyrhaeddodd y rownd derfynol fel sail ar gyfer eu proses benderfynu.
Ariennir y wobr diolch i haelioni aelodau Art Fund sy’n prynu Tocyn Celf Cenedlaethol. Mae deiliaid tocynnau’n mwynhau gostyngiadau a buddion yn yr amgueddfeydd sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a channoedd yn rhagor ledled gwledydd Prydain, ac ar yr un pryd yn cefnogi gwaith hanfodol Art Fund yn hyrwyddo ac yn cefnogi amgueddfeydd.
Mae Art Fund yn tynnu rhestr fer o bum amgueddfa ragorol bob blwyddyn ar gyfer gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn. Mae gwobr 2025 yn cydnabod prosiectau a gweithgarwch ysbrydoledig rhwng hydref 2023 a gaeaf 2024. Yn ogystal ag edrych ar lwyddiannau cyffredinol y sefydliad, mae’r beirniaid yn cael y dasg o nodi prosiectau sy’n cael traweffaith ac sy’n taflu goleuni ar yr ystod eang o bobl nodedig, gan gynnwys staff a gwirfoddolwyr yr amgueddfeydd, sy’n dod ag amgueddfeydd yn fyw drwy waith ymgysylltu â chymunedau, teuluoedd ac ymwelwyr iau, artistiaid a phobl greadigol.