BFI Rip it Up

Mae Rip It Up yn gyfle i gynulleidfaoedd edrych ar sut mae 75 mlynedd o ddiwylliant ieuenctid wedi cael ei adlewyrchu ar y sgrin yng ngwledydd Prydain. Bydd rhaglen o ffilmiau wedi’u dewis a’u hyrwyddo gan bobl ifanc, a detholiad o ffilmiau o Archif Ddarlledu Cymru sy’n dathlu diwylliant ieuenctid cyfrwng Cymraeg.

Gyda chefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) y BFI, a wnaed yn bosib gan y Loteri Genedlaethol.