Film

Effi O Blaenau

15
  • 2026
  • 1h 30m
  • Wales

£5 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Marc Evans
  • Tarddiad Wales
  • Blwyddyn 2026
  • Hyd 1h 30m
  • Tystysgrif 15
Cymraeg gyda isdeitlau Saesneg

Mae Effi’n dod o Flaenau Ffestiniog, lle mae’r tafarndai wedi cau, mae’r swyddi wedi diflannu, ac mae unig incwm y teulu yn dod o swydd ran amser ei nain yn y siop jips. Mewn clwb nos yn Llandudno, mae Effi’n cwrdd â rhywun sy’n rhoi cipolwg o fywyd iddi nad ydy hi wedi’i ddychmygu, ond mae’r realiti sy’n dilyn yn ei deffro o’r freuddwyd yn ysgytiol. Gyda pherfformiad canolog tanbaid gan Leisa Gwenllian, dyma ddehongliad sinematig o’r ddrama Iphigenia in Splott gan Gary Owen, a berfformiwyd gyntaf yn Theatr y Sherman yn 2015 cyn mynd ymlaen i gael ei pherfformio ledled y byd.

 + Ymunwch â ni mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r gwneuthurwyr ffilm ar 19 Mehefin 

___
Oherwydd amodau ein trwydded, ni allwn ganiatáu pobl ifanc o dan 18 oed yn yr adeilad ar ôl 10.30pm. Dylech wirio amser gorffen unrhyw ffilm, perfformiad neu ddosbarth cyn archebu. Ewch i’n tudalen Teuluoedd i gael rhagor o wybodaeth cyn ymweld â ni.

Yn y podlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru diweddaraf, mae'r Cyfarwyddwr Marc Evans a'r actor Leisa Gwenllïan yn trafod rhyddhau Effi o Blaenau gyda'r awdur a'r darlledwr Lowri Haf Cooke.

Share

Times & Tickets