- Ffilm

Refugee Week 2025
Ymunwch â Chapter i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid rhwng 16 a 22 Mehefin.
Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.
Read moreYmunwch â Chapter i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid rhwng 16 a 22 Mehefin.
Ar gyfer thema eleni ‘Cymuned fel Goruwchbŵer’, mae Chapter wedi rhaglennu detholiad o ffilmiau a digwyddiadau sydd â’r nod o uno pobl o wahanol gefndiroedd, gan anrhydeddu cryfder a chreadigrwydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ein cymuned.
Wythnos Ffoaduriaid yw gŵyl gelfyddydau a diwylliant fwya’r byd sy'n dathlu doniau, arloesedd a phenderfyniad ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches. Bydd y rhaglen yn darparu llwyfan grymusol i unigolion sydd wedi’u dadleoli rannu eu lleisiau mewn ffordd ddilys, gan harneisio mynegiant creadigol i feithrin dealltwriaeth ac i hyrwyddo newid cymdeithasol
Mae teulu yng nghefn gwlad Somalia yn ymgodymu â brwydrau cymhleth wrth ddod o hyd i gariad ac ymddiriedaeth yn ei gilydd.
Pan mae athro’n syrthio mewn cariad â'i fyfyriwr Zouzou, mae ei ddyweddi’n penderfynu datgelu ei chyfrinach.
Ffilm ddogfen am y genhedlaeth wleidyddol weithgar, greadigol sy'n brwydro dros ryddid yn Swdan.
Mae llawfeddyg rhyfel yn ymddangos o Gaza i alw am gyfiawnder yn y ffilm ddogfen ddadlennol ac amrwd yma.