Digwyddiadau
COMMS FAIL opening event
Roy Claire Potter
- 2h
Nodweddion
- Hyd 2h
Mae Roy Claire Potter: COMMS FAIL yn agor y penwythnos hwn. Ymunwch â ni ddathlu’r agoriad.
Mae COMMS FAIL yn ehangu ar berfformiad byw a lwyfannwyd am y tro cyntaf yn Lerpwl ac a ddarlledwyd ar Resonance FM, mewn amgylchedd gwrando lle mae sain yn symud trwy wrthrychau, arwynebau a chyrff.
___
Ynglŷn â'r artist
Artist ac yn awdur sy'n perfformio, arddangos a chyhoeddi yw Roy Claire Potter.
Ar draws eu harfer amlddisgyblaethol – sy’n cwmpasu ysgrifennu arbrofol, perfformiadau lleisiol, arlunio, celfyddyd sain a gosodwaith – maen nhw’n ffurfio straeon o ddelweddau darniog a dwys sy’n cyfleu cyrff yn symud, golygfeydd domestig neu leoliadau pensaernïol. Mae diddordeb mewn cyfyngiadau cyfathrebu, is-destun a dilyniant naratif yn siapio'r gwaith yma, sy'n aml yn archwilio deinameg grŵp gymhleth neu ganlyniadau digwyddiadau treisgar, weithiau â hiwmor bwriadol. Maen nhw’n aml yn cydweithio â cherddorion ac artistiaid sain ar gyfer cyd-destunau radio a gwyliau.
Mae COMMS FAIL yn waith comisiwn Unlimited Partner Award 2025 gyda Gŵyl Ddwyflynyddol Lerpwl, a wnaed yn bosib diolch i Gyngor Celfyddydau Lloegr. Cefnogwyd ymchwil a datblygu drwy haelioni gwobr preswylfa artist gydag Art Explora, Paris yn Cite International des Arts.