Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor
Multicoloured bunting and balloons are hung in Chapter's car park. People walk around the stalls on a sunny day.

Cenhadaeth

Canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes yw Chapter, sydd â’i gwreiddiau yng nghanol Caerdydd. Cafodd ei sefydlu gan artistiaid yn 1971 i ddathlu arbrofi a meddwl radical, ac rydyn ni wedi bod yn sbardun ar gyfer creadigrwydd a meddwl beirniadol byth ers hynny.    

Rydyn ni’n comisiynu ac yn cyflwyno arddangosfeydd, ffilmiau, perfformiadau a digwyddiadau amlddisgyblaethol sy’n ysgogi’r meddwl gan artistiaid cyfoes newydd a sefydledig sy’n ehangu ein bydolwg ac yn herio’r status quo. Gan groesawu safbwyntiau niferus ac amrywiol, cymryd risgiau ac arbrofi, mae ein rhaglen yn annog sgyrsiau sy’n croesi ffiniau a disgyblaethau. 

Mae’r artistiaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn mynd ati i ystyried materion a chwestiynau hanfodol sy’n siapio ein presennol, ac rydyn ni’n meithrin deialog rhwng cynulleidfaoedd ac artistiaid drwy raglen gyhoeddus sy’n cynnig cyfleoedd i gysylltu drwy ein hanes, y ffordd rydyn ni’n byw nawr, a sut gallen ni ddychmygu dyfodol newydd. 

Mae ein hymagwedd yn gydweithredol, gan roi llwyfan i brosiectau sy’n rhannu ein pwrpas ac sy’n blaenoriaethu tegwch cymdeithasol a diwylliannol. Rydyn ni’n eirioli dros gymunedau ac artistiaid fel adeiladwyr byd.   

Ochr yn ochr â’n rhaglen gyhoeddus eang, rydyn ni’n gweithio tu ôl i’r llen i gefnogi’r gymuned greadigol yn ein 50+ o stiwdios a thu hwnt, gan ddod â phobl at ei gilydd i annog syniadau ac ymreolaeth gasgliadol. 

Rydyn ni’n credu mewn mynediad teg at ddiwylliant a bod gan y celfyddydau y pŵer i’n cysylltu ni i gyd mewn deialog o gwmpas profiadau amrywiol a dyheadau a rennir, i gefnogi iechyd a llesiant, ac i gyfrannu at gymdeithas fwy chwilfrydig a chydlynol. 

Ffrindiau Chapter Friends

Gyda’ch cyfeillgarwch chi, byddwch chi’n ein helpu ni i rannu celf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel o Gymru a gweddill y byd.

Mwy

Ymunwch â'n rhestr bostio

Newyddion Diweddaraf

Y newyddion diweddaraf o'r Chapter

Mwy