Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth

Mae ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys wedi dangos yr angen dybryd i ni weithredu er mwyn profi ein hymrwymiad i roi diwedd ar hiliaeth ym mhob ffurf.

Ers mis Mehefin 2020, pan gyhoeddon ni ddatganiad yn cydnabod ein bod wedi methu â bod yn sefydliad gweithredol gwrth-hiliol, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid, staff, ymddiriedolwyr, partneriaid ac ymgynghorwyr i greu’r cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth yma fel cam cyntaf i Chapter.

Rydyn ni’n deall bod y gwaith o ddod yn sefydliad gwrth-hiliol yn waith hirdymor, a bod yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar ddeialog, perthnasau a chamau cyson ac ystyrlon. Felly, dogfen ddynamig yw hon, ac rydyn ni’n ymrwymo i adolygu a diweddaru’r camau rydyn ni’n eu cynllunio ddwywaith y flwyddyn wrth i ni barhau i weithio gydag unigolion, partneriaid, sefydliadau ac artistiaid.

Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth

Monitro’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth. Cyfnod: Rhagfyr 2021 – Rhagfyr 2022