Datganiad Diogelu

Mae Chapter yn glynu at yr egwyddor bod gan bawb hawl i gael ei amddiffyn rhag cam­driniaeth neu niwed, ac rydyn ni’n ymdrechu i gynnig amgylchedd sy’n ddiogel ac yn groesawgar i bawb. 

Rydyn ni’n ymroddedig i ddiogelu llesiant ein gweithwyr, ein gwirfoddolwyr a phawb sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau, ar y safle ac oddi arno. Mae staff a gwirfoddolwyr Chapter, ac unrhyw sy’n gweithio ar ein rhan, yn gyfrifol am weithredu ein gweithdrefnau a’n Polisi Diogelu. Rydyn ni hefyd yn cydnabod y rôl bwysig gall ymwelwyr ei chwarae o ran ein helpu ni i gadw ein lleoliad yn ddiogel.

Mae ein Gweithdrefnau a’n Polisi Diogelu yn cael eu harwain gan yr egwyddorion canlynol.

  • Rydyn ni’n credu bod gan bawb hawl i gael eu hamddiffyn waeth beth yw eu hoedran, anabledd, rhywedd, treftadaeth hil, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol, maint neu hunaniaeth. Rydyn ni’n ymroddedig i arfer gwrthwahaniaethol.
  • Rydyn ni’n gwerthfawrogi, yn gwrando, ac yn parchu profiadau’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
  • Rydyn ni’n defnyddio ein gweithdrefnau diogelu i rannu pryderon a gwybodaeth berthnasol gydag asiantaethau ac unigolion, pan fod hynny’n briodol.
  • Mae gweithdrefnau diogelu wedi’u cynnwys yn asesiad risg prosiect unrhyw raglen ac mewn cytundebau partneriaeth.
  • Caiff staff a gwirfoddolwyr eu recriwtio’n ddiogel, gan sicrhau bod yr holl wiriadau angenrheidiol yn cael eu gwneud a bod gwybodaeth yn ymwneud â’r gwiriadau yma’n cael ei chadw yn unol â’n Gweithdrefnau Polisi.
  • Rydyn ni’n rheoli ein staff a’n gwirfoddolwyr yn effeithiol drwy oruchwyliaeth, cefnogaeth a hyfforddiant.
  • Rydyn ni’n gweithredu canllawiau arfer da i staff, partneriaid a gwirfoddolwyr.
  • Rydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n darparu amgylchedd corfforol diogel i blant, pobl ifanc, oedolion sy’n agored i niwed, staff a gwirfoddolwyr, drwy weithredu mesurau iechyd a diogelwch yn unol â’r gyfraith a chanllawiau rheoleiddio.
  • Rydyn ni bob amser yn cofnodi ac yn storio gwybodaeth yn broffesiynol a yn ddiogel.
  • Mae gennym Arweinydd, Dirprwy Arweinydd, a Phrif Ymddiriedolwr
  • Mae ein harferion diogelu’n cyd-fynd â’n Cod Ymddygiad.

Mae Chapter yn ymroddedig i degwch a chynhwysiant, ac rydyn ni’n ymdrechu i wreiddio arferion diogelu ar draws y gwaith rydyn ni’n ei wneud.

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth bresennol, caiff ein harferion a’n Polisi Diogelu eu hadolygugan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr unwaith y flwyddyn, ac ar ôl newidiadau i’n model busnes neu i’r Arweinwyr Diogelu dynodedig. Cânt eu hadolygu hefyd yn sgil newidiadau i ddeddfwriaeth y llywodraeth.

Caiff ein Polisi Diogelu ei werthuso’n flynyddol, ac fe'i hadolwyd ddiwethaf ar 30/11/2026.

Sut i adrodd

Os ydych chi’n pryderu am eich llesiant chi neu rywun arall yn ein lleoliad, siaradwch ag aelod o’r tîm rheoli sydd ar ddyletswydd wrth y ddesg flaen. Byddan nhw’n cymryd datganiad cyfrinachol gennych.

Oherwydd natur ein gweithrediadau, allwn ni ddim gwarantu pwy fydd ar ddyletswydd bob amser, felly, er enghraifft, petai’n well gennych aelod o staff benywaidd ond eich bod yn adrodd y tu allan i oriau swyddfa arferol (9am – 6pm), efallai y bydd angen i ni ofyn i aelod arall o’r sefydliad i ymuno fel sylwedydd.

Bydd y Rheolwr ar Ddyletswydd yn adrodd am y digwyddiad wrth yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd Diogelu o fewn 24 awr. Fel arall, gallwch anfon e-bost at y Tîm Diogelu yn uniongyrchol. Bydd Arweinydd Diogelu yn ymateb i chi (oni bai eich bod yn gofyn iddyn nhw beidio) ymhen 48 awr o gael yr adroddiad.

E-bost diogelu: [email protected].

Tîm Diogelu

Arweinydd: Kofi Acheampong, Pennaeth Ymgysylltu
Dirprwy Arweinydd: Hannah Firth, Cyd-gyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Artistig
Prif Ymddiriedolwr: Cadeiryddion Dros Dro Cyf