Polisi Gwirfoddoli
Mae ein Polisi Gwirfoddoli wedi’i greu i ddangos ein bod ni wedi treulio amser a gofal wrth gynllunio sut bydd gwirfoddolwyr yn cael eu croesawu i Chapter. Mae hefyd yn amlinellu y bydd pob gwirfoddolwr yn cael ei drin mewn modd teg a chyson. Dylai hefyd helpu ein gwirfoddolwyr i ddeall pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw a beth allan nhw ei ddisgwyl ganddon ni.
Cyflwyniad Canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes yw Chapter, sydd â’i gwreiddiau yng nghanol Caerdydd. Cafodd ei sefydlu gan artistiaid yn 1971 i ddathlu arbrofi a meddwl radical, ac rydyn ni wedi bod yn sbardun ar gyfer creadigrwydd a meddwl beirniadol byth ers hynny.
Cenhadaeth Chapter
Rydyn ni’n comisiynu ac yn cyflwyno arddangosfeydd, ffilmiau, perfformiadau a digwyddiadau amlddisgyblaethol sy’n ysgogi’r meddwl gan artistiaid cyfoes newydd a sefydledig sy’n ehangu ein bydolwg ac yn herio’r status quo. Gan groesawu safbwyntiau niferus ac amrywiol, cymryd risgiau ac arbrofi, mae ein rhaglen yn annog sgyrsiau sy’n croesi ffiniau a disgyblaethau.
Mae’r artistiaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn mynd ati i ystyried materion a chwestiynau hanfodol sy’n siapio ein presennol, ac rydyn ni’n meithrin deialog rhwng cynulleidfaoedd ac artistiaid drwy raglen gyhoeddus sy’n cynnig cyfleoedd i gysylltu drwy ein hanes, y ffordd rydyn ni’n byw nawr, a sut gallen ni ddychmygu dyfodol newydd.
Mae ein hymagwedd yn gydweithredol, gan roi llwyfan i brosiectau sy’n rhannu ein pwrpas ac sy’n blaenoriaethu tegwch cymdeithasol a diwylliannol. Rydyn ni’n eirioli dros gymunedau ac artistiaid fel adeiladwyr byd.
Ochr yn ochr â’n rhaglen gyhoeddus eang, rydyn ni’n gweithio tu ôl i’r llen i gefnogi’r gymuned greadigol yn ein 50+ o stiwdios a thu hwnt, gan ddod â phobl at ei gilydd i annog syniadau ac ymreolaeth gasgliadol.
Rydyn ni’n credu mewn mynediad teg at ddiwylliant a bod gan y celfyddydau y pŵer i’n cysylltu ni i gyd mewn deialog o gwmpas profiadau amrywiol a dyheadau a rennir, i gefnogi iechyd a llesiant, ac i gyfrannu at gymdeithas fwy chwilfrydig a chydlynol.
Diben ein Polisi Gwirfoddoli
Mae ein Polisi Gwirfoddoli wedi’i greu i ddangos ein bod ni wedi treulio amser a gofal wrth gynllunio sut bydd gwirfoddolwyr yn cael eu croesawu i Chapter. Mae hefyd yn amlinellu y bydd pob gwirfoddolwr yn cael ei drin mewn modd teg a chyson. Dylai hefyd helpu ein gwirfoddolwyr i ddeall pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw a beth allan nhw ei ddisgwyl ganddon ni.
Mae’r polisi’n nodi egwyddorion gwirfoddoli yn Chapter yn glir, a sut bydd hyn yn cael ei gyflawni a’i reoli.
Egwyddorion Gwirfoddoli yn Chapter
Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr, y Cyfarwyddwyr a’r staff yn cydnabod bod Gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r gwaith o gyflawni ein Cenhadaeth, ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd, ac maen nhw’n gwerthfawrogi eu cyfraniadau’n fawr.
Diffiniad Gwirfoddolwr yw rhywun sy’n cynnig eu hamser, eu profiad a’u sgiliau yn rhydd drwy eu dewis personol, a heb ddisgwyl gwobr ariannol, er budd y Gwirfoddolwr a’r sefydliad.
Nid yw Gwirfoddolwyr yn cyflawni’r un rôl â staff cyflogedig, ond maen nhw’n cydweithio gyda nhw i gyflawni ein Cenhadaeth, i ehangu eu profiad a’u harbenigedd, ac i wasanaethu ein cynulleidfaoedd. Mae Gwirfoddolwyr yn gwella profiad aelodau’r gynulleidfa a’r staff ac yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol i’r sefydliad. Mae Gwirfoddolwyr yn gweithredu fel llysgenhadon i Chapter, gan ddatblygu a chryfhau perthnasau gyda’n cymunedau lleol a’n cynulleidfaoedd.
Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Mae Chapter yn ymroddedig i hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth drwy ei gwaith gyda gwirfoddolwyr yn unol â’r Polisi Cyfle Cyfartal, y Cod Ymddygiad a’r Cynllun Gweithredu Gwrth Hiliaeth.
Mae rolau gwirfoddoli yn addas i bobl sydd:
- Yn 18 oed neu’n hŷn
- Yn cytuno i weithredu egwyddorion y Cod Ymddygiad sefydliadol
- Yn gallu cytuno i lefel ymrwymiad o ddwy sifft y mis
Recriwtio a Dethol
Mae’r broses recriwtio ar gyfer gwirfoddolwyr yn deg ac yn gyson â’r broses i staff cyflogedig. Gofynnir i ddarpar wirfoddolwyr lenwi ffurflen gais syml, a fydd yn gofyn am wybodaeth gyswllt ar gyfer dau eirda, ymrwymiad i wirfoddoli yn unol ag egwyddorion ein Cod Ymddygiad sefydliadol a ffurflen cyfle cyfartal.
Mae’r ffurflen gais yn ffurfio rhan o’r broses ddethol ar gyfer creu rhestr fer o wirfoddolwyr posib. Ar ôl cael eu dewis, bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad grŵp. Byddwn yn cysylltu â chanolwyr yn ystod y broses ddethol.
Bydd cyfnod prawf o bedair wythnos i roi amser i Chapter a’r gwirfoddolwr bennu a ydyn nhw’n addas i’w gilydd. Bydd adolygiad yn cael ei gynnal hanner ffordd drwy’r cyfnod prawf ac ar y diwedd. Nid asesiad yw hwn; dim ond cyfle i Chapter a’r gwirfoddolwr fod yn sicr bod y berthynas yn gweithio’n dda i’r ddwy ochr yw hyn.
Cymorth a Goruchwyliaeth
Er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi’n briodol a’u bod yn hyderus yn eu rôl, byddan nhw’n cael eu goruchwylio’n weithredol gan ddau Reolwr ar Ddyletswydd, a bydd y Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr yn rheolwr llinell arnynt. Mae yna gyfeiriad e-bost pwrpasol [email protected] y gall gwirfoddolwyr ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ymholiadau. Caiff hwn ei fonitro’n rheolaidd gan y Tîm Rheoli ar Ddyletswydd.
Bydd angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar rai rolau gwirfoddol er mwyn rhoi gwybod i Chapter am unrhyw euogfarnau troseddol sydd gan rywun sy’n dymuno gwirfoddoli. Er enghraifft, bydd unrhyw rôl wirfoddoli sy’n cynnwys gweithgarwch wedi’i reoleiddio gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed yn destun gwiriad DBS.
Disgrifiadau Tasg
Mae’r tasgau y mae gwirfoddolwyr yn eu cyflawni yn cynnwys tywys mewn perfformiadau yn bennaf, ond gallant gynnwys tasgau eraill weithiau. Mae manylion penodol ar gyfer tywys perfformiadau yn y Llawlyfr Gwirfoddolwyr. Ar gyfer tasgau gwirfoddol eraill, bydd natur y tasgau’n cael eu hegluro pan gaiff y daflen gofrestru ei rhannu, a bydd briff byr ychwanegol gan y Rheolwr ar Ddyletswydd cyn i’r dyletswyddau ddechrau ar y sifft. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau ac, os yw’n briodol, addasu dyletswyddau i weddu i’r gwirfoddolwr neu’r sefydliad.
Ymrwymiad Amser
Gofynnir i wirfoddolwyr ymrwymo i o leiaf dwy sifft y mis. Os oes rheswm pam na ddylai hyn fod yn bosib, gallai’r Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr ystyried hyn a chreu trefniant amgen os yw’r gwirfoddolwr a Chapter yn cytuno i hynny.
Cynefino a Hyfforddiant
Bydd pob gwirfoddolwr newydd yn cael gwahoddiad i fynd i sesiwn gynefino cyn iddyn nhw gyflawni unrhyw ddyletswyddau fel gwirfoddolwr Chapter.
Bydd gwirfoddolwyr yn mynd i hyfforddiant pellach i gynnal a datblygu sgiliau ac aros yn gyfredol â pholisïau ac arferion Chapter.
Iechyd, Diogelwch ac Yswiriant
Mae gofyn i wirfoddolwyr ymddwyn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch a Pholisi Diogelu Chapter, a’r Cod Ymddygiad, a darllen a llofnodi’r rhain yn ogystal â’r Llawlyfr Gwirfoddolwyr i ffurfio Cytundeb Gwirfoddolwyr cyn dechrau ar ddyletswyddau. Cytundeb er anrhydedd yn unig yw’r Cytundeb Gwirfoddolwyr ac nid yw’n ffurfio contract cyflogaeth.
Mae disgwyl i wirfoddolwyr fynd i hyfforddiant ymarfer gwacáu adeilad ac adrodd am unrhyw achosion cymorth cyntaf neu bryderon iechyd a diogelwch neu ddigwyddiadau i’r Rheolwr ar Ddyletswydd, sydd oll wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf ac sy’n gyfrifol am Iechyd a Diogelwch ar y safle.
Mae gwirfoddolwyr wedi’u cynnwys o dan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus Chapter.
Ffiniau a Disgwyliadau
Mae disgwyl i wirfoddolwyr gyflawni’r dasg a nodwyd ac ymddwyn mewn modd priodol yn unol â Chod Ymddygiad y sefydliad.
Os nad oes modd iddynt gyflawni ymrwymiad (hynny yw ar ôl cofrestru i sifft), dylai’r gwirfoddolwyr gysylltu â Chapter 48 awr ymlaen llaw. Mae’r manylion llawn sy’n amlinellu’r weithdrefn hon ar gael yn y Llawlyfr Gwirfoddolwyr.
Er na ddylai gwirfoddoli gael unrhyw effaith ar fudd-daliadau sy’n cael eu hawlio, dylai gwirfoddolwyr roi gwybod i asiantaethau budd-daliadau am eu gwaith gwirfoddol.
Rydyn ni’n disgwyl i bob gwirfoddolwr lynu at ganllawiau cyfrinachedd a fydd yn cael eu hegluro i chi cyn i chi ddechrau gwirfoddoli gyda ni, ac mae hyn hefyd yn cynnwys defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a chyswllt gyda’r wasg.
Gweithdrefn Datrys Problemau
Er y bydd Chapter yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y profiad gwirfoddoli yn gadarnhaol ac yn werth chweil, rydyn ni’n cydnabod y bydd achlysuron lle bydd gwirfoddolwyr eisiau codi pryder o bosib. Mae gan wirfoddolwyr hawl i godi unrhyw fater yn ymwneud â gwirfoddoli, er enghraifft am wirfoddolwr arall, aelod o staff cyflogedig, neu eu rôl. Dylent drafod y mater yn anffurfiol gyda’r Rheolwr ar Ddyletswydd yn gyntaf. Os mai’r Rheolwr ar Ddyletswydd yw’r person mae’r pryder yn ymwneud â nhw, yna dylid cyfeirio’r mater at y Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr.
Nod Chapter yw datrys unrhyw broblemau’n gyflym ac yn gyfeillgar. Os bydd aelod o staff yn codi pryder ynghylch gwirfoddolwr, unwaith eto bydd y mater yn cael ei godi’n anffurfiol gyda’r Rheolwr ar Ddyletswydd.
Byddwn ni’n edrych i weld pa gymorth ychwanegol allai fod ei angen neu os gellir cyflawni tasg mewn ffordd wahanol.
Os nad oes modd datrys problem, neu os yw’n cael ei ystyried yn gamddymdygiad difrifol, efallai y byddwn ni’n cynghori’r unigolyn nad ydyn nhw’n wirfoddolwr mwyach. Bydd pob mater yn ymwneud â chwynion gan wirfoddolwyr neu amdanynt yn cael ei drin yn gyfrinachol.
Lletygarwch a Manteision
Mae pob gwirfoddolwr yn cael cerdyn gostyngiad sydd, pan fydd yn cael ei ddangos wrth y caffi bar, yn rhoi 10% oddi ar fwyd a diod iddynt. Mae’r gostyngiad yma ar gael i wirfoddolwyr yn unig, ac nid yw’n drosglwyddadwy.
Mae gwirfoddolwyr yn cael dau docyn sinema am ddim y mis, yn ogystal ag unrhyw berfformiadau maen nhw’n eu gweld wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Gall gwirfoddolwyr gronni a hawlio Credydau Amser Tempo. Mae’r manylion llawn am hyn ar gael yn y Llawlyfr Gwirfoddolwyr.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu gwahodd i sawl digwyddiad cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn, fel ein dangosiadau ffilm i Staff, Cymdeithion Stiwdio a Gwirfoddolwyr.
Cysylltiadau Allweddol
Tîm Rheolwyr ar Ddyletswydd
[email protected]
07838 194 469
Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr
Hope Radford
[email protected]