Polisi Goruchwylio Plant a Phobl Ifanc

Mae Chapter yn ganolfan boblogaidd a phrysur, sy’n croesawu ystod eang o unigolion drwy ei drysau bob dydd. Tra byddwch chi yma, rydyn ni eisiau i chi deimlo’n ddiogel yn awyrgylch anffurfiol ein canolfan gelfyddydau.

Bob dydd o’r wythnos, rydyn ni’n cyflwyno ystod o weithgareddau, digwyddiadau, ffilmiau, perfformiadau ac arddangosfeydd yn ein lleoliad, ac yn cynnig lle ymlaciol i gymunedau ddod at ei gilydd. Mae croeso cynnes i blant a phobl ifanc.

Serch hynny, fel rhan o’n darpariaeth, rydyn ni hefyd yn gartref i far trwyddedig, sy’n golygu bod Cyngor Caerdydd wedi rhoi canllawiau clir i ni ar sut mae’n rhaid i ni reoli ymddygiad a phresenoldeb mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Os na fyddwn ni’n glynu at y canllawiau yma, byddwn ni’n torri cytundeb ein trwydded.

Diben y polisi hwn yw amlinellu’r canllawiau yma i'n hymwelwyr ynghylch goruchwylio plant yn briodol ar ein safle.

Mae copi o'r polisi hwn ar gael i’w lawrlwytho ar ein gwefan ac ar gais wrth y Ddesg Wybodaeth.

Gofynnir i ymwelwyr ymgyfarwyddo â'r polisi, a sicrhau eu bod yn dilyn y canllaw fel sy'n ofynnol.

Diogelwch

Un o'r ffactorau pwysicaf wrth sicrhau diogelwch plant ar y safle yw pa mor ddiogel yw'r adeilad. Rydyn ni’n cael ein cydnabod fel lle diogel, gyda staff wedi'u hyfforddi a chamerâu cylch cyfyng, ond rhaid cydnabod mai gofod cyhoeddus yw Chapter yn dal i fod, sydd â nifer fawr o bobl yn ymweld bob dydd.

Yn ogystal, mae gennym sawl pwynt mynediad i’r cyhoedd i mewn ac allan o'r adeilad. Mae'r rhain ar agor yn ystod oriau agor, ac maen nhw'n arwain at ardaloedd prysur fel strydoedd neu feysydd parcio. Er y caiff yr holl fynedfeydd a'r gofodau cyhoeddus yn yr adeilad eu monitro gan gamerâu cylch cyfyng, at ddiben darparu tystiolaeth mae hyn yn bennaf. Er eu bod yn recordio bob awr o'r dydd, ni chaiff y camerâu eu monitro'n barhaus, ac ni ddylid dibynnu arnynt fel mesur ataliol.

Y tu mewn i'r adeilad, ac yn ardal y caffi bar yn benodol, mae'n rhaid i bob plentyn o dan 14 oed gael eu goruchwylio gan oedolyn priodol ar bob adeg ac mae'n rhaid iddynt eistedd wrth fwrdd lle bynnag bo'n bosib. Gyda bwyd a diodydd poeth yn cael eu gweini a phrysurdeb cwsmeriaid, mae'n rhaid sicrhau diogelwch yr holl ymwelwyr a'n staff. Mae croeso i blant o dan 14 oed gydag oedolyn yn ein caffi bar tan 9pm bob dydd, ac yna bydd y Rheolwr ar Ddyletswydd yn gofyn iddynt adael. Mae croeso i bobl ifanc dros 14 oed aros yn hwyrach, ond mae’n rhaid iddynt adael y safle cyn 10.30pm, aros mewn ardal benodol ddi-alcohol, neu fynd i ddigwyddiad. Mae’n rhaid i fynychwyr ddangos ID addas ar gais neu bydd rhaid i ni wrthod mynediad.

Pan fyddwch y tu allan i'r adeilad ond yn dal i fod ar safle Chapter, mae'n dal yn rhaid i oedolyn priodol oruchwylio plant ar bob adeg. Mae blaen Chapter yn ardal chwarae ddeniadol; ond dylid cofio ei bod yn ffinio â ffordd brysur a gallai chwarae’n swnllyd darfu ar ein cymdogion, neu amharu ar ddigwyddiadau sy’n digwydd mewn mannau cyfagos.

Noder oherwydd ein trefniant trwyddedu, ni chaniateir mynd â diodydd alcoholaidd y tu allan i’r adeilad ar ôl 8pm.

Nid y Rheolwr ar Ddyletswydd nac aelodau eraill o staff sy'n gyfrifol am oruchwylio eich plant, ac mae'r cyfrifoldeb hwn yn aros gyda'r rhiant, gwarcheidwad, neu oedolyn cyfrifol ar bob adeg.

Os yw'r Rheolwr ar Ddyletswydd o'r farn bod perygl i ddiogelwch, os yw lefelau sain yn amharu ar unrhyw rai o'n gweithgareddau eraill neu ar gymdogion, neu os na chaiff y gofynion uchod eu dilyn, bydd gofyn i chi adael yr ardal yma.

Staff Chapter a Chyfarwyddyd

Ni ddylech deimlo wedi'ch tramgwyddo os bydd y Rheolwr ar Ddyletswydd yn dod i siarad â chi am ymddygiad eich plant. Mae gofyn iddynt sicrhau amgylchedd braf, a nhw sy'n gyfrifol am ddiogelwch a llesiant pawb ar y safle. Os ydynt o'r farn bod angen gwneud, byddant yn dod atoch i drafod y mater yn dawel. Rhaid glynu at bob cais gan y Rheolwr ar Ddyletswydd, ac os caiff ceisiadau eu hanwybyddu'n rheolaidd neu os nad ydynt yn teimlo bod y sefyllfa wedi gwella, mae'n bosib y byddant yn gofyn i chi adael.

Mae penderfyniad ein Rheolwr ar Ddyletswydd yn derfynol, ac maent yn gweithredu o dan awdurdodiad llawn Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, yr Uwch Dîm Rheoli a'r deiliaid trwydded dirprwyedig.

Ni fyddwn yn goddef ymddygiad amharchus nac annerbyniol, boed yn eiriol neu'n gorfforol. Gweler hefyd ein Cod Ymddygiad.

Gellir cyfeirio sylwadau neu adborth mewn perthynas â'r polisi yma at y Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QE.

  • Teuluoedd

    Mae ein lleoliad yn addas i deuluoedd ac rydyn ni’n croesawu ymwelwyr o bob oed.