Cynnig Cymraeg

Yn Chapter, rydyn ni’n ymroddedig i gefnogi a dathlu’r Gymraeg. Ein nod yw gwneud yr iaith yn rhan amlwg a gwerthfawr o’n gwaith bob dydd, a chreu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i bawb.

Drwy’r Cynnig Cymraeg, a gefnogir gan Gomisiynydd y Gymraeg, gallwch gael mynediad at wybodaeth, ymwneud â’n rhaglenni a chyfathrebu gyda ni yn Gymraeg.

Er mwyn pori ein gwefan yn Gymraeg, dewiswch ‘Cymraeg’ ar yr ochr dde ar frig y dudalen. Bydd hyn yn gosod eich dewis iaith ar draws ein gwefan a’n system docynnau, felly bydd negeseuon i gadarnhau archebion ac arolygon ar ôl digwyddiadau yn cael eu hanfon atoch yn Gymraeg.