Experimentica 2024

  • Published:

Galwad i'r Gwanwyn

11/04/24 - 14/04/24

Gŵyl gelf fyw dros bedwar diwrnod yw Experimentica, a gynhelir gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ac sy’n annog risg, cydweithio a chyfnewid – yr unig ŵyl o’r fath yng Nghymru. Mae hi wedi bod yn rhedeg ers dros ugain mlynedd, ac mae’r ŵyl ddwyflynyddol yma’n cynnig cyfle hanfodol i arferion celf fyw arbrofol a radical ffynnu.

Gan nodi troad y tymhorau tuag at fywyd newydd, bydd Experimentica 2024: Galwad i’r Gwanwyn yn dod ag artistiaid a chymunedau ynghyd i ddathlu gwaddol yr ŵyl a’r ecolegau sy’n cynnal perfformiad o fewn a thu hwnt i’n hardal leol. Wrth i’r gwanwyn ddeffro wedi Alban Eilir, fe ddown ynghyd i ddychmygu dyfodol cyfunol, gan groesawu’r anhrefn a’r digymhellrwydd sy’n rhoi lle i newydd-deb ddod i’r amlwg. Rydyn ni’n croesawu trawsnewidiad fel grym hanfodol i’r cynulliad yma. Bydd Galwad i’r Gwanwyn yn hau’r hadau ar gyfer ecolegau perfformio’r dyfodol yn ystod y cyfnod yma o fywiogrwydd cynyddol – o bartneriaethau cydweithredol, rhwydweithiau a phreswyliadau i nosweithiau gwaith ar waith, partïon a chylchoedd awduron. 

Bydd Galwad i’r Gwanwyn yn amser ar gyfer ansefydlogi, i hel ac i hau; i ffurfiau a chysylltiadau newydd ddatod o’r tywyllwch. 

Ymunwch â'n rhestr bostio